麻豆官网首页入口

Cyngor Sir y Fflint i ailgydio mewn trafodaethau addysg

  • Cyhoeddwyd
Protest yn Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ystod yr haf bu rhieni, disgyblion ac athrawon yn protestio'n erbyn y cynlluniau i gau ysgolion

Mae cynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg uwchradd yn Sir y Fflint yn cael eu trafod.

Ddydd Mercher mae cais i gynghorwyr ail ddechrau trafodaethau cyhoeddus wedi i gynlluniau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf achosi pryder.

Roedd y cyfnod o ymgynghori i fod i ddod i ben ym Mis Medi.

Ond ym mis Awst pleidleisiodd cynghorwyr Sir Y Fflint yn unfrydol o blaid ehangu'r cyfnod.

Roedd pobl yn gwrthwynebu'r cynlluniau, fyddai'n cynnwys cau dwy ysgol uwchradd er mwyn gostwng nifer y lleoedd gwag.

Daeth yr ymgynghoriad cynta' i ben wedi i rai rhieni godi cwestiynau yngl欧n ag amseru'r cyfan dros wyliau'r haf.

Gwahanol opsiynau

Mae tair ysgol uwchradd wedi cael eu henwi fel rhai sydd 芒 mwy o leoedd gwag - Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Elfed ym Mwcle ac Ysgol John Summers yn Queensferry.

Wedi cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn ystod yr hydref, bydd cais yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr ddydd Mercher i gymeradwyo .

Mae nifer o wahanol opsiynau ar gyfer yr ysgolion, gan gynnwys uno ysgolion John Summers a Chei Conna, cau dwy ysgol ac agor un newydd.

O dan y cynlluniau, mae 'na drafodaeth yngl欧n 芒 chael ysgol ar gyfer plant 11-18 oed ar "gampws dysgu" yn lle Ysgol Uwchradd Treffynnon.

Byddai'r ysgol honno'n cynnig addysg gynradd cyfrwng Saesneg, ond ddim yn cynnwys darpariaeth Cymraeg na Phabyddol.

Ym Mwcle, un o'r opsiynau fyddai "cyd-leoli" ysgolion Westwood ac Elfed ar safle Ysgol Elfed, gan ddarparu addysg ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Fel rhan o'r newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol, mae cynnig i uno Ysgol Argoed, Mynydd Isa, ac Ysgol Uwchradd Elfed wedi'u rhoi o'r neilltu.

Roedd penaethiaid y cyngor wedi cyfadde' ym mis Awst mai "cymysg" oedd ymateb y cyhoedd i'r cynlluniau, wedi i gyfarfod i drafod y mater ysgogi protest gan gannoedd o rieni, disgyblion ac athrawon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol