Pryder cau uned anafiadau dros dro

Fe gafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal i drafod pryderon newidiadau i uned anafiadau ysbyty yn Sir Benfro.

Yn gynharach yn y mis daeth adroddiadau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi cau Uned Man Anafiadau mewn dau ysbyty, Ysbyty Dinbych-y-Pysgod a De Sir Benfro, er mwyn cynnal y gwasanaeth brys mewn ysbyty arall.

Yn 么l y bwrdd fe fydd y cynllun yn dod i rym ar Ionawr 3 2012.

Mae hyn yn rhan allweddol o gynnal gwasanaeth brys llawn a gwasanaeth gofal yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Ond mae trigolion lleol yn ne'r sir wedi codi pryderon am y penderfyniad.

Clywodd y cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Pentref Llan-Fair ger Dinbych-y-Pysgod fod methu denu arbenigwyr gwasanaeth brys yn sail i'r problemau.

Diffyg staff

Mae Adran Gwasanaeth Brys angen pedwar ymgynghorydd yn 么l y bwrdd iechyd, a does yr un yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae 'na un meddyg dros dro yn cychwyn ym mis Ionawr, un arall ym mis Chwefror ac un arall ym mis Mawrth.

Fe ddylai'r adrannau hefyd fod 芒 chwe meddyg ar y raddfa ganolig - dim ond dau sydd yna.

Dywed y Bwrdd fod cau'r unedau llai yn canoli'r gwasanaeth a'r arbenigedd yn yr uned yn Llwynhelyg.

Roedd tua 100 o bobl lleol yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys yr Aelodau Cynulliad Angela Burns a Joyce Watson.

Ymhlith y pryderon y mae'r ffaith nad oes gan bawb gar i deithio i Lwynhelyg; gwastraffu amser y gwasanaeth ambiwlans ac aros am oriau i weld meddyg am fod cymaint o brysurdeb yno.

Maen nhw hefyd yn pryderu nad oes 'na amserlen ar gyfer ailagor yr uned maes o law.