Bwrdd iechyd i wrando ar syniadau

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd am sicrhau bod barn y cyhoedd i'w glywed mewn unrhyw gynlluniau i newid

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cychwyn ar gyfnod o wrando ar farn y cyhoedd mewn perthynas 芒 Strategaeth Gwasanaethau Clinigol.

Bwriad yr ymarferiad, Eich Iechyd, Eich Dyfodol, yw caniat谩u i'r Bwrdd Iechyd drafod gyda'r cyhoedd ar y sefyllfa bresennol, yr angen am newid ac atebion posib am ofal iechyd yn y dyfodol a gwrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd i'w ddweud.

Mewn dogfen y ar y we mae 'na fanylion am yr angen i newid o fewn y bwrdd iechyd yn ogystal 芒'r sefyllfa bresennol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth yma yn cynorthwyo'r cyhoedd i ddeall pam fod newid mor allweddol o fewn y bwrdd," meddai'r Prif Weithredwr Trevor Purt.

"Rydym wedi cyflwyno'r cyfle ychwanegol yma i barhau i wrando ar y cyhoedd a'u cynorthwyo i ddeall yn well yr hyn yr ydym yn ei wynebu.

Trafodaeth

"Rydym eisiau pwysleisio nad oes 'na unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ac yn gobeithio y bydd yn arwain at ein cynlluniau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, diogel a chynaliadwy i'r dyfodol.

"Fe fyddwn yn parhau i wrando ar farn y cyhoedd ac yn ystyried yr awgrymiadau."

Yn ogystal 芒 gwybodaeth ar y we mae cyfle yn y flwyddyn newydd, ar draws y bwrdd, i bobl gael trafodaeth.

Fe fydd y rhain yn Y Neuadd Fawr, Neuadd y Dref, Aberteifi (Chwefror 1 2012); Canolfan Addysg Caerfyrddin (Chwefror 3); Neuadd Goffa Trefdraeth (Chwefror 9); Canolfan Selwyn Samuel Llanelli (Chwefror 14); Neuadd Goffa Llandybie (Chwefror 16); Canolfan Menter Y Bont, Doc Penfro (Chwefror 20) a Chanolfan y Morlan (Chwefror 22).

Fe fydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal yn ystod 2012.