Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ynni haul: Her yn llwyddo
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfarnu fod gwendidau cyfreithiol yng nghynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri cymorthdaliadau ar gyfer pobl sydd am roi paneli solar ar eu tai.
Roedd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne yn bwriadu torri'r cymorthdoliadau i unrhyw gynllun a gafodd ei gwblhau wedi Rhagfyr 12.
Roedd dau gwmni a gr诺p amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear wedi dadlau y byddai hynny'n achosi ansicrwydd economaidd aruthrol.
Dywed Cyfeillion y Ddaear fod dyddiad y newid "cynnar ac anghyfreithlon" wedi digwydd 11 diwrnod cyn diwedd cyfnod ymgynghori ar y taliadau, a'i fod eisoes wedi arwain at gynlluniau arfaethedig yn dod i ben.
Mae elusen sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai cymunedol yng Nghymru wedi dweud y bydd "miloedd o denantiaid ar eu colled" wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau.
Mae cymdeithasau tai wedi bod yn datblygu prosiectau i osod paneli ar filoedd o dai eu tenantiaid yng Nghymru, gan fwriadu gostwng eu biliau ynni a lleihau eu h么l troed carbon.