Mwy o ddarpariaeth ambiwlans i Fynwy

Disgrifiad o'r llun, Roedd David Davies wedi cwrdd ag uwch reolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Ambiwlans Cymru'n dweud y byddan nhw'n darparu mwy o wasanaethau ym Mynwy yn dilyn pryderon am amseroedd ymateb.

Roedd yr Aelod Seneddol lleol, David Davies, wedi codi nifer o achosion mewn cyfarfod 芒 rheolwyr - gan gynnwys claf 49 oed a fu farw naw niwrnod ar 么l iddi aros 41 munud am barafeddyg.

Dywed y gwasanaeth y bydd criw ychwanegol yn ymuno 芒'r parafeddygon a'r Cerbyd Ymateb Cyflym sydd eisoes wedi'u lleol yn Nhrefynwy, a hynny ym mis Chwefror.

Mae Mr Davies wedi croesawu'r addewid i wella gwasanaethau.

Roedd o wedi crybwyll achos Jacqueline Davies, fu farw ar 么l iddi aros 41 munud am barafeddyg wedi iddi ddisgyn yn ei chartre' yn y dre'.

Ym mis Rhagfyr, clywodd cwest i'w marwolaeth nad oedd staff ar gael i weithio adeg y digwyddiad ar Ionawr 11, 2011, a phan gyrhaeddodd parafeddyg, roedd y Cerbyd Ymateb Cyflym wedi torri lawr am fod y batri wedi mynd yn isel.

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Jacqueline Davies aros 41 munud am ambiwlans

Cyfeiriodd Mr Davies hefyd at achos teulu, fu'n disgwyl dwywaith cymaint 芒'r hyn sydd wedi'i osod fel targed ar gyfer amser ymateb ambiwlans, wedi i fachgen pum mis oed stopio anadlu yn ei gartre' yn Nhrefynwy fis diwetha'.

'Buddiol'

"Mae 'na nifer o achosion anfoddhaol iawn wedi bod yn ddiweddar yn ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys, yn enwedig yn ardal Trefynwy, ac yn amlwg mae pobl yn pryderu," meddai'r Aelod Seneddol.

"Cefais gyfarfod buddiol gyda rheolwr a buon ni'n trafod yr achosion penodol yma a pham bod amseroedd ymateb mor wael.

"Mae'r ymddiriedolaeth wedi bod yn ddigon gonest i gyfadde' bod 'na gamgymeriadau wedi'u gwneud ac maen nhw wedi bod yn gwella'u gwasanaethau."

Er bod Mr Davies wedi clywed na fyddai yna ambiwlans penodedig ar gyfer Trefynwy a Chas-gwent, bydd gan bob tre' barafeddyg a Cherbyd Ymateb Cyflym pwrpasol.

"Mae'r parafeddygon hyn wedi'u hyfforddi'n drwyadl a byddan nhw'n gallu cychwyn gweithredoedd meddygol mewn argyfwng," eglurodd.

"Os oes angen cludo cleifion i'r ysbyty, yna bydd ambiwlans yn cyrraedd.

"Mae'r ymddiriedolaeth yn dal i obeithio ymateb i amseroedd targed o wyth munud, ond fydd ambiwlans ddim yn cael ei gyfyngu i ardal.

"Buon ni hefyd yn trafod cynlluniau i sicrhau bod 'na gyfleusterau eraill yn dod yn lle'r orsaf ambiwlans yn Nhrefynwy, sydd ynghau ar hyn o bryd.

"Bydd 'na hefyd gwell cydlynu gydag ymddiriedolaethau ambiwlans yn Lloegr i sicrhau y gallai ambiwlans dros y ffin gael ei ddefnyddio."

'Gwasanaeth 24 awr'

Dywedodd fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans hefyd yn cydweithio gyda byrddau iechyd lleol i geisio sicrhau fod pobl 芒 man anafiadau yn cael eu trin gan staff meddygol heb orfod cael eu cludo i adrannau damweiniau brys.

Yn 么l llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, roedd y cyfarfod gyda Mr Davies wedi bod yn "fuddiol ac adeiladol" a dywedodd y bydden nhw'n cwrdd eto fis nesa'.

Dywedodd y llefarydd: "Byddem yn hoffi sicrhau cymunedau yn Sir Fynwy fod 'na wasanaeth ambiwlans 24 awr yn yr ardal, gyda pharafeddyg a Cherbyd Ymateb Cyflym wedi'u lleoli yn Nhrefynwy.

"Mae 'na gynlluniau hefyd i gynyddu'r ddarpariaeth ambiwlans ymhellach, trwy gyflwyno criw ychwanegol o fis Chwefror ymlaen.

"Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid o fewn y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod cleifion ar draws Sir Fynwy yn cael gwasanaeth cyson a safonol."