麻豆官网首页入口

Angen i gyngor sir ddigolledu dyn anabl

  • Cyhoeddwyd
Peter TyndallFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adroddiad yr Ombwdsmon Peter Tyndall yn beirniadu'r awdurdod

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir G芒r ddigolledu dyn anabl wedi achos camweinyddu.

Daw'r feirniadaeth mewn adroddiad am gwyn yn erbyn y cyngor gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Cwynodd y dyn (Mr M) fod y cyngor wedi neilltuo eiddo ar ei gyfer yn 2008 cyn dweud nad oedd modd ei addasu ar gyfer ei anghenion.

Roedd y cyngor yn gwbl ymwybodol o'i anghenion cyn neilltuo'r eiddo, yn 么l adroddiad yr Ombwdsmon.

Ddim yn ymarferol

Dywedodd y cyngor wrth Mr M am wneud cais am gael symud i eiddo mwy addas ond nid oedd Mr M am symud gan ei fod ef a'i deulu wedi setlo.

Roedd Mr M wedi gofyn am addasiadau mewnol, gan gynnwys gosod lifft grisiau a chawod cerdded-i-mewn.

Dywedodd y cyngor nad oedd yr addasiadau allanol yn ymarferol bosibl ac na fyddai'n bodloni anghenion Mr M.

Yn 么l yr adroddiad, ni wnaeth y cyngor unrhyw addasiadau am dros dair blynedd nes iddo ailasesu anghenion Mr M wedi ei gwyn i swyddfa'r Ombwdsmon yn 2011.

Cytunodd y cyngor wedyn i wneud yr holl addasiadau y gofynnwyd amdanyn nhw.

Dim asesiad

Dywedodd yr adroddiad nad oedd asesiad therapi galwedigaethol i'r eiddo cyn ei neilltuo nac asesiad llawn chwaith o anghenion Mr M ar gyfer addasiadau gan naill ai therapydd galwedigaethol neu'r gwasanaethau cymdeithasol - a hyn am am dros dair blynedd ar 么l iddo symud i'r eiddo.

Ymddengys nad oedd y cyngor yn cydnabod eu dyletswyddau gofal cymdeithasol statudol at Mr M.

Mae'r Ombwdsmon wedi argymell ymddiheuriad i Mr M a thaliad o 拢3000.

Dywedodd Bruce McLernon, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cyngor Sir G芒r: "Rydym wedi cydweithio'n gadarnhaol 芒'r Ombwdsman yn yr achos hwn ac rydyn ni'n derbyn canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

"Byddwn yn cysylltu 芒'r achwynydd i drafod y canfyddiadau a sicrhau bod yr holl faterion yr oedd wedi'u codi wedi cael sylw.

"Rydyn ni eisoes wedi anfon ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol ato.

'Cymhleth'

"Mae'r Ombwdsmon yn cydnabod bod yr achos yn gymhleth a'n bod wedi anelu bob amser at gynnig yr ateb gorau ar sail dymuniad yr achwynydd i gael math o d欧 yr oedd galw mawr amdano yn yr ardal yr oedd wedi'i dewis.

"Roedden ni hefyd wedi cynnig dewisiadau ailgartrefu yr oedd wedi eu gwrthod.

"Hoffem bwysleisio bod y cyngor wedi gwneud nifer o welliannau yn y maes hwn cyn ac yn ystod yr ymchwiliad.

"Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno polisi cadarn ynghylch addasiadau a dyrannu tai gyda chymorth t卯m penodedig o swyddogion i ymdrin ag achosion cymhleth o'r math hwn.

"Felly mae camau wedi cael eu cymryd yn barod i ddelio 芒'r materion godwyd yn yr adroddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol