Cyhoeddi marciau Llywodraeth Cymru i ysgolion

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Ysgol Tryfan ym Mangor sydd wedi cael y sg么r orau

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cyhoeddi union farciau pob ysgol uwchradd yng Nghymru, hynny yw sail system fandio ddadleuol Llywodraeth Cymru.

Ac mae'r wybodaeth yn rhoi manylion pellach i rieni am safle ysgol eu plant yn y system fandio.

Ers Rhagfyr 2011 fe gafodd ysgolion eu gosod o fewn un o bum band.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu'r marciau unigol oherwydd cais 麻豆官网首页入口 Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sg么r orau

Yr ysgol 芒'r sg么r orau yw Ysgol Tryfan ym Mangor - cafodd yr ysgol y marc uchaf ymhob un o'r 12 adran sy'n rhan o'r system fandio.

Mae'r rhain yn cynnwys perfformiad mewn arholiadau ond hefyd welliant, presenoldeb a'r nifer o blant sy'n cael cinio am ddim.

Disgrifiad o'r sainAnna Brychan o Undeb yr NAHT yng Nghymru sy'n ymateb i gyhoeddi union sg么r ysgolion uwchradd Cymru.

Ysgol yr Esgob Gore yn Abertawe sy'n ail gydag Ysgol y Dyffryn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn drydedd.

Yr ysgol gyda'r marciau isaf yw Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd, Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ac Ysgol Gymunedol Daniel James yn Abertawe.

Mae mwyafrif yr adrannau yn ystyried gwelliant ysgol dros gyfnod o amser.

Angenrheidiol

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod y system fandio gyhoeddodd ym mis Rhagfyr yn angenrheidiol er mwyn adnabod a thargedu ysgolion oedd angen y cymorth mwyaf er mwyn gwella.

Ond dywedodd nad oedd y system yn cyfateb i dablau cynghrair nac yn "fodd i enwi a chodi cywilydd ar ysgolion gwan".

Mae disgwyl i ysgolion yn y band uchaf rannu eu llwyddiant a helpu datblygu dulliau gwell mewn ysgolion eraill.

Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r system i dargedu adnoddau yn yr ysgolion sydd eu hangen.

Mae'r bandiau ysgolion yn cael eu diweddaru bob blwyddyn ac mae bandio ysgolion cynradd ar y gweill.

Mae bandiau ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru wrthi'n cael eu paratoi ar hyn o bryd.