麻豆官网首页入口

Galw am ddileu system fandio ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Tryfan, BangorFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Tryfan ym Mangor sydd wedi cael y sg么r orau

Wedi i 麻豆官网首页入口 Cymru gyhoeddi union farciau pob ysgol uwchradd yng Nghymru ar sail system fandio ddadleuol Llywodraeth Cymru mae 'na wrthwynebiad i'r system ehangach.

Fe gyhoeddwyd union sg么r pob ysgol uwchradd ddydd Mercher ar 么l cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan 麻豆官网首页入口 Cymru.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ym mis Rhagfyr ym mha fand oedd pob ysgol ond nid y sg么r unigol.

Mae un o'r undebau athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y system ond mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi gwrthod cynlluniau i ddileu'r system.

Mae Undeb yr NUT wedi dweud mai'r hyn mae'r llywodraeth wedi ei wneud, drwy gyflwyno'r system ddiweddara, yw ail-gyflwyno'r tablau cynghrair mewn ffordd wahanol.

"Mae'r gweinidog addysg yn pwysleisio nad bwriad y tablau yw enwi a chywilyddio ysgolion, ond hyd yma dydan ni ddim wedi gweld eglurhad sy'n cyfiawnhau'r sylw," meddai David Evans o'r undeb.

'Ailystyried'

"Does 'na ddim amheuaeth ymhlith athrawon y bydd y system yma yn ddiffygiol i'n plant.

"Rydym yn parhau fel undeb i wrthwynebu'n chwyrn y system gan ofidio y bydd yn arwain at ddirywiad yn ein hysgolion na fydd modd ei adfer.

"Er budd y disgyblion fe ddylai'r llywodraeth ailystyried."

Dywedodd Anna Brychan o Undeb yr NAHT yng Nghymru eu bod nhw'n poeni y bydd y system yma yn drysu pobl.

"Er ein bod yn hapus i gydnabod bod 'na bethau defnyddiol yn y data yma, pethau y mae angen edrych arnyn nhw a'u datblygu, yn y b么n, ystod gymharol gyfyng o ddata yw hwn, a all o ddim a fydd o ddim yn rhoi'r stori gyfan am lwyddiant neu aflwyddiant ysgol.

"Yn y b么n, y broblem yw bod y llywodraeth wedi creu system anoddach yn hytrach na system haws."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn credu mai drwy'r system bandio y mae cyflwyno proses werthuso adeiladol fydd yn arwain at gynorthwyo a gwella perfformiad yr ysgolion.

"Mae hyn yn ganolbwynt i agenda gwella ysgolion ac fe fydd yn rhoi darlun mwy clir i rieni am y modd y mae ysgolion uwchradd yn perfformio."

Ysgolion cynradd

Yn y cyfamser roedd 'na ddadl ar fandio ysgolion cynradd yn Y Senedd ddydd Mercher.

Yno fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas, annog Llywodraeth Cymru unwaith eto i adolygu'r cynlluniau i fandio ysgolion o blaid system decach wedi i'r manylion gael eu cyhoeddi.

Dywedodd fod gweithredu bandio ysgolion yn rhy debyg i dablau cynghrair a bydd y canlyniadau'r un mor niweidiol.

Mae Plaid Cymru wedi awgrymu cyflwyno system lle bydd rhieni yn derbyn adroddiadau blynyddol ar berfformiad yr ysgol a thrwy'r system yma y bydd rhieni yn cael gwybod am gryfderau a gwendidau pob ysgol, heb unrhyw warthnod.

"Mae'r Gweinidog Addysg Llafur ei hun wedi cyfaddef fod tablau cynghrair yn ddinistriol, ac eto mae'n mynnu bwrw ymlaen i'w gweithredu dan enw arall," meddai Mr Thomas.

"Mae'r undebau addysg yn erbyn bandio ysgolion, ac yn dilyn cyhoeddi'r bandiau hyn, mae pryder cynyddol fod y gwarthnod eisoes yn cael effaith."

'Eithrio'

Wrth drafod y bwriad o gyhoeddi'r un math o system ar gyfer ysgolion cynradd dywedodd y byddai llawer o ysgolion cynradd yn cael eu heithrio ac y byddai'n cam-lunio'r ffigyrau.

"Bydd y polisi hwn yn ynysu'r ysgolion sy'n perfformio waethaf, ac nid yw'r Gweinidog wedi esbonio sut y bwriada helpu ysgolion yn y bandiau isaf.

"Peth dinistriol yw gosod un ysgol yn erbyn y llall fel hyn."

Wrth drafod y system ar gyfer ysgolion cynradd dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Angela Burns, ei bod yn gwbl anghredadwy bod y llywodraeth yn ystyried creu tabl credadwy pan fydd dros 30% o ysgolion wedi eu heithrio.

Ychwanegodd: "Mae angen clywed eglurhad llawer cliriach gan y Gweinidog Addysg sut y bydd yr ysgolion yn cael eu bandio yn ymarferol, sy'n wybodaeth ddefnyddiol i rieni gan gynnwys yr holl ffactorau amrywiol sy'n cael effaith ar safonau addysg."

Ond mae'r Gweinidog Addysg wedi gwrthod galwadau i ddileu'r system ymhlith ysgolion cynradd Cymru.

Mae'n mynnu y bydd y cynlluniau, fel rhai'r ysgolion uwchradd, yn parhau ac yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Ond mae'r llywodraeth wedi cadarnhau na fydd tua thraean o'r ysgolion yn cael eu cynnwys ar y sail eu bod yn rhy fach a ffactorau eraill.

"Rydym wedi gwneud hi'n glir ein bod angen ymdriniaeth wrthrychol, cyson, fel gyda'r ysgolion uwchradd sy'n canolbwyntio ar y prif flaenoriaethau," meddai Mr Andrews.

"Mae 'na fwy o sialensiau wrth ddatblygu model ar gyfer yr ysgolion cynradd, y mwya' yw nifer yr ysgolion a maint yr ysgolion.

"Fe fydd ysgolion cynradd yn derbyn band dros dro cyn y Pasg a'r band terfynol yn ystod tymor yr haf."