Bandio: Ysgolion cynradd nesaf

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Gwrthododd Leighton Andrews alwadau i roi'r gorau i fandio ysgolion yn y Senedd

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi gwrthod galwadau i roi'r gorau i gynllun i fandio ysgolion cynradd.

Mynnodd y byddai'r cynllun, sy'n debyg i'r un dadleuol ar gyfer ysgolion uwchradd, yn mynd yn ei flaen yn ddiweddarach eleni.

Datgelodd 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Mercher yr union farciau a gafodd pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi i'r manylion gael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwleidyddion ac undebau athrawon wedi galw am ail-ystyried sustem sy'n mesur perfformiad ysgolion mewn nifer o feysydd.

Yn y cynllun ysgolion cynradd mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd tua traean o'r ysgolion yn cael eu heithrio o'r cynllun oherwydd eu maint a rhai ffactorau eraill.

Honnodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC, y byddai mwy na hanner ysgolion cynradd ardaloedd gwledig wedi eu heithrio, a galwodd am ddiddymu'r cynllun gan y byddai'n ddibwrpas.

Yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd: "Does dim synnwyr yn y peth - ni fydd disgyblion, athrawon na chyrff llywodraethol yn deall y sustem.

"Rwy'n credu y dylai'r llywodraeth - ac rwy'n galw ar y gweinidog nawr - i gael gwared 芒'r cynllun bandio i ysgolion cynradd cyn iddo gael ei gyflwyno a chyn ei bod yn rhy hwyr."

Ond gwrthododd Mr Andrews yr alwad, gan ddweud ei fod am fabwysiadu dull gwrthrychol sy'n gyson gyda'r sustem fandio i fonitro ysgolion uwchradd.

Gwrthododd hefyd feirniadaeth y gwrthbleidiau fod y sustem yn cyfateb i "dablau cynghrair drwy'r drws cefn".

Marc uchaf

Mae bandio yn gosod ysgolion mewn un o bum band yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys canlyniadau arholiad, gwelliant, presenoldeb a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Dywedodd Mr Andrews: "Mae'r heriau wrth ddatblygu model gwrthrychol ar gyfer ysgolion cynradd o'i gymharu ag ysgolion uwchradd yn fawr, a'r un fwya yw'r nifer fawr o ysgolion gyda nifer fach o ddisgyblion.

"Bydd ysgolion cynradd yn derbyn band dros dro cyn y Pasg ac fe fyddwn yn cadarnhau'r band terfynol yn ystod tymor yr haf."

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Ysgol Tryfan ym Mangor gafodd y marciau gorau

Dangosodd y wybodaeth gyhoeddwyd gan 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Mercher mai Ysgol Tryfan ym Mangor, Gwynedd, gafodd y marciau gorau yn y 12 adran sy'n rhan o sustem fandio ysgolion uwchradd Cymru.

Cafodd y wybodaeth ei datgelu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Fe wnaeth ysgrifennydd undeb athrawon NUT Cymru, David Evans, ategu'r alwad i ddiddymu bandio.

Dywedodd Anna Brychan o undeb NAHT Cymru: "Nid yw'r sustem yn disgrifio'n llawn beth y mae ysgol yn ei gyflawni ond y canfyddiad cyhoeddus yw bod hyn yn dweud y stori cyfan.

"Rydym yn bryderus y bydd hyn yn niweidiol yn y pen draw."

Dywedodd Dr Stevie Upton, swyddog ymchwil gyda'r Sefydliad Materion Cymreig: "Os ydym yn meddwl gormod am edrych ar bwy sy'n well nag eraill, yna mae'r wybodaeth yn troi'n rhyw fath o ffon i'w ddefnyddio i guro ysgolion."

Ychwanegodd mai pwrpas bandio oedd galluogi swyddogion y llywodaeth ac awdurdodau lleol i flaenoriaethu adnoddau i ysgolion fyddai eu hangen fwyaf.