Pryder ymgyrchwyr am ddyfodol ysbyty

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae arolwg wedi ei gynnal o'r ysbyty

Mae ymgyrchwyr yn poeni fod ysbyty lleol yn cael ei israddio ac yn galw am i'r awdurdodau gyhoeddi canlyniadau arolwg diweddar.

Dywed y gr诺p ymgyrchu eu bod yn poeni am ddyfodol Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog gan honni bod yr awdurdodau yn anfon cleifion i ysbytai eraill.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwadu bod yna unrhyw fwriad i israddio ac mae meddygon teulu lleol sy'n penderfynu pa ysbyty yw'r mwyaf addas ar gyfer cleifion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai canlyniad arolwg diweddar a wnaed gan y bwrdd iechyd yn cael ei gi gyhoeddi maes o law.

'Anodd gwybod'

Cafodd y gr诺p ymgyrchu ei sefydlu yn 2005 ar 么l cyhoeddiad y byddai gofal iechyd yn cael ei ad-drefnu.

Rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hynny.

Ar y pryd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd oedd yn gyfrifol am yr ysbyty.

"Mae'n anodd gwybod beth yn union sy'n digwydd," meddai Geraint Vaughan Jones, Cadeirydd Mudiad Ymgyrchu'r Ysbyty Coffa.

Dywedodd fod adroddiad gafodd ei gomisiynu i son am adnoddau'r ysbyty i fod i gael ei gyhoeddi'r llynedd.

Pryder y gr诺p yw bod yr ysbyty yn cael ei "israddio yn dawel bach".

Mae pryder hefyd bod ysbyty sy'n gadael Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn mynd i Ysbyty Tremadog yn hytrach nag i Blaenau Ffestiniog.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai meddygon teulu oedd yn gyfrifol am ddewis ysbytai ar gyfer eu cleifion.

Ychwanegodd nad oedd cyfleusterau yn cael eu hisraddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gofyn i Dr Ed Roberts ystyried y defnydd gorau ar gyfer Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog yn y dyfodol.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn copi o'r adroddiad. Eu gwaith nhw fydd ystyried y casgliadau.

"Bydd cynnwys yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.