Parhau i drafod cyllideb Cyngor Ynys M么n

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Comisiynwyr sy'n gyfrifiol am Gyngor Sir Ynys M么n ar hyn o bryd

Bydd y comisiynwyr sy'n gyfrifol am Gyngor Ynys M么n yn ailddechrau trafod cyllideb yr awdurdod ddydd Llun.

Eisoes mae adroddiad ar ran y comisynwyr wedi rhybuddio y bydd 2012/13 yn flwyddyn ariannol 'hynod anodd' i'r cyngor gan fod y 'pwrs cyhoeddus yn lleihau.'

Dywedodd y Comisiynydd 芒 chyfrifoldeb dros Gyllid, Byron Davies: "Fel Comisiynwyr byddwn yn gwneud pob ymdrech i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen - ond mae'n anochel y byddwn yn wynebu penderfyniadau anodd.

"Bydd yr awdurdod, fodd bynnag, ddim yn cymryd unrhyw benderfyniadau mawr hyd nes y mae wedi ymgynghori yn llawn gyda'r cyhoedd, partneriaid a budd-ddeiliaid."

Ymgynghori

Bydd y Cyngor yn ymgynghori'n fuan gyda thrigolion M么n fel rhan o'r broses gyllidebol gyda chynigion hefyd yn mynd gerbron Cynghorau Tref a Chymunedau a'r Fforwm Ysgolion am sylwadau.

Bydd Cynghorwyr hefyd yn chwarae rhan yn y broses o lunio'r gyllideb drwy weithdai, pwyllgorau craffu a chyfarfodydd eraill.

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae'r hinsawdd economaidd bresennol wedi golygu toriadau llym i wariant yn y sector cyhoeddus ac mae pob cyngor yn wynebu heriau cyllid anodd.

"Mae M么n yn wynebu heriau sylweddol er mwyn amddiffyn gwasanaethau hanfodol, fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol."

"Er mwyn gwneud hyn, bydd rhaid i Ynys M么n ymateb i dan-fuddsoddiad y blynyddoedd diwethaf os yw am lwyddo i ddarparu gwasanaethau modern, effeithlon sydd yn addas i'w pwrpas ac wedi eu cynllunio er mwyn cyfarfod 芒 gofynion trigolion yr Ynys."

Yn dilyn y broses ymgynghori arfaethedig, bydd cynigion cyllideb derfynol y Comisiynwyr yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn ar Fawrth 6 2012.