麻豆官网首页入口

Arddangosfa o atgofion bywyd mewn ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty ElaiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn dloty ac yn gartref i blant amddifad cyn troi鈥檔 ysbyty

Mae cyn-gleifion a staff Ysbyty Elai, Caerdydd yn rhannu atgofion o fywyd yn y sefydliad ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu, a hynny mewn arddangosfa newydd.

Daeth yr ysbyty yn enwog yn 1969 pan gynhaliwyd ymchwiliad i ymddygiad staff wedi i un nyrs s么n wrth bapur newydd y News of The World am gleifion yn cael eu cam-drin.

Parhaodd y sefydliad i drin pobl ag anawsterau dysgu tan y 1990au ac mae rhai cyn-breswylwyr am i bobl ifanc heddiw ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd ar y safle yn y gorffennol.

Dywedodd Karen Jeffreys ar ran Cardiff People First, gr诺p ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu:

"Mae pobl yn ein gr诺p yn dod at ei gilydd i sgwrsio am fywyd, a dyma ni'n sylwi bod sawl un yn s么n am eu hatgofion am Ysbyty Elai.

Atgofion

"Roedden nhw'n meddwl ei bod hi'n hen bryd nodi'r hyn a ddigwyddodd yna'n swyddogol gan fod cymaint o bobl a dreuliodd eu bywydau yna ddim wedi cael cyfle i siarad.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maen nhw wedi ail greu tu mewn i'r ysbyty yn yr arddangosfa

"Mae'r arddangosfa hefyd i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ddarganfod mwy am eu hetifeddiaeth. Dydyn nhw ddim wedi clywed am bobl yn cael eu hanfon i ffwrdd am flynyddoedd i'r ysbyty - wedi'r cyfan, doedd y plant yna ddim yn s芒l."

Ymhlith y straeon sy'n rhan o'r arddangosfa y mae atgofion un cyn-glaf, John, oedd ddim yn cael mynd adref am y penwythnos er bod ei rieni'n disgwyl amdano wrth y dderbynfa.

Mae hefyd yn cofio rhywun yn dwyn ei anrhegion pen-blwydd.

Mae Lorraine yn cofio nad oedd byth a chael mynd ar dripiau allan o'r ysbyty, a'i bod yn cael 'nodwydd yn y pen 么l' am gamymddwyn.

Ond mae June yn cofio hwyl y pantomeim, y bwyd blasus a'r ffaith iddi syrthio mewn cariad yno.

Mae Cardiff People First am i ragor o bobl rannu eu straeon gyda nhw.

Byddan nhw hefyd yn cynnal gweithdai i drafod yr ymchwiliad yn 1968 a'r problemau oedd rhai wedi'u hwynebu wrth ddychwelyd i'r gymuned ar 么l blynyddoedd mewn sefydliad.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Amgueddfa Straeon Caerdydd tan Chwefror 28.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol