麻豆官网首页入口

Plannu coed ar gyfer babanod newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Plannu Coed Ysgubor WenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plant ysgol lleol sy'n plannu'r rhan fwyaf o goed o amgylch Cymru

Mae 140,000 o goed wedi cael eu plannu mewn chwe safle fel rhan o brosiect tyfu coeden ar gyfer pob babi sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.

Cafodd cynllun 'Plant!' ei gychwyn bedair blynedd yn 么l er mwyn creu fforestydd newydd ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol plant.

Dywedodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru mai plant oedd yn gyfrifol am blannu'r rhan fwyaf o'r coed newydd.

Mae pob babi yn cael gwybod ym mha le mae'r goeden sydd wedi ei phlannu yn eu henw.

Byddan nhw hefyd yn derbyn tystysgrif drwy'r post ar 么l eu genedigaeth yn datgan fod coeden wedi ei phlannu.

Coed brodorol

Daeth y syniad gwreiddiol gan ferch ysgol o Gaerdydd, Natalie Vaughan, a ysgrifennodd at ei Haelod Cynulliad yn awgrymu y byddai'r ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am yr amgylchedd.

Ers hynny mae chwech o goedwigoedd wedi cael eu creu ar draws Cymru, ac mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn trafod prynu dau arall.

Bob mis mae arweinydd y cynllun yn derbyn manylion o faint o fabanod gafodd eu geni gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Maen nhw wedyn yn trefnu cymysgedd o goed brodorol i gael eu plannu gan gynnwys coed derw, ynn bedw, criafol a helyg.

Cost bob coeden yw tua 拢8, ond dywed y Comisiwn eu bod yn arbed arian drwy drefnu i blant ysgolion lleol i blannu'r coed yn hytrach na chontractwyr.

"Mae'r cynllun yn mynd yn dda iawn ac wedi tyfu ers y dechrau bedair blynedd yn 么l," meddai swyddog plannu Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Layla Cash.

'Addysg'

"Mae'r coedwigoedd hefyd yn gymorth gydag addysg plant.

"Er enghraifft mae'r safle diweddaraf ar Ynys M么n, ac mae myfyrwyr Lefela yn dysgu am blannu coed fel rhan o'r Fagloriaeth Gymreig.

"Fe wnaethon nhw wedyn ddysgu'r ysgol gyfan, a gyda'i gilydd fe wnaethon nhw blannu 10,000 o goed, ac roedd hynny'n wych."

Mae cynllun Plant! yn cael ei redeg gan Coed Cadw a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol