麻豆官网首页入口

Gweinidog: Ardaloedd menter yn 2012

  • Cyhoeddwyd
Edwina HartFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Edwina Hart: 'Yn hyderus bod y polisi'n gywir'

Mae'r Gweinidog Busnes wedi dweud y bydd ardaloedd menter yn cael eu cyflwyno eleni, yn unol 芒'r cynllun gwreiddiol.

Roedd rhai gwleidyddion wedi honni bod Llafur yn llusgo eu traed.

Bydd pump ardal, Ynys M么n, Glannau Dyfrdwy, Sain Tathan, Caerdydd a Glyn Ebwy, yn cael eu sefydlu er mwyn cefnogi diwydiannau allweddol.

"Gwleidyddion oedd yn beirniadu nid pobl fusnes," meddai Edwina Hart wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

Dywedodd fod y trafod rhwng Llywodraeth Cymru a'u partneriaid am addysg, hyfforddi, a thrafnidiaeth yn adeiladol.

Lwfansau

Parhau o hyd mae trafodaethau 芒'r Trysorlys yngl欧n 芒 lwfansau cyfalaf fydd yn helpu busnes i ddileu costau asedau arbennig.

Mae rhai ardaloedd menter yn cael eu sefydlu yn Henffordd, Bryste a Lerpwl.

"Mae rhai busnesau eisoes wedi mynegi diddordeb yn yr ardaloedd yng Nghymru," meddai, "a dim ond yn ddiweddar mae'r Alban wedi dweud y byddan nhw'n dilyn yr un patrwm.

"Dyw pob busnes ddim yn cyhoeddi eu bod nhw wedi trafod 芒 ni.

"Rwy'n hyderus fod ein polisi ni'n gywir," meddai.

Yn y Senedd ddydd Mawrth roedd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi honni wrth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod Cymru "ar ei h么l hi".