麻豆官网首页入口

Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae canolfan Gymraeg newydd Wrecsam yn agor yn swyddogol cyn penwythnos o weithgareddau.

Bwriad Canolfan Saith Seren yw creu lleoliad fydd yn hybu'r iaith yn y dref a'r sir.

Daeth y syniad i sefydlu'r ganolfan yn hen dafarn Seven Stars yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Cafodd ap锚l i ariannu'r fenter ei lansio yno ac, yn 么l y trefnwyr, maen nhw wedi derbyn arian o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Bydd yr adeilad enwog ar Stryd Caer ar agor am fwyd yn ystod y dydd ac yn dafarn traddodiadol gyda'r nos.

Caiff gig ei gynnal yno nos Wener cyn yr agoriad mawr ddydd Sadwrn.

Llwyddiant

Dau o bobl Wrecsam sy'n ail-agor y dafarn ar ei newydd-wedd.

Mae Spencer Harris o Frynteg yn gyn-ddysgwr y flwyddyn yn yr Eisteddfod ac wedi bod yn un o Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam sydd newydd brynu'r clwb p锚l-droed lleol.

Un o gyn-chwaraewyr y t卯m yw Dixie McNeil.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caiff y lle ei ddefnyddio yn ystod y dydd a chyda'r nos

"Yn ogystal 芒 hyrwyddo'r iaith a diwylliant a cheisio normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yma yn Wrecsam, mae'n fwriad gan Saith Seren i ddathlu ein tref a'n llwyddiannau lleol," meddai cadeirydd y fenter Marc Jones.

"Mae'r ddau yma wedi llwyddo i hybu'r dref ac mi rydan ni'n falch ohonyn nhw.

"Mae p锚l-droed yn bwysig iawn yn Wrecsam ac mae'r ffaith bod y clwb wedi ei gymryd drosodd gan fenter weithredol fel ni, yn dangos be gall y bobl ei wneud os maen nhw eisiau.

"Mae'r dafarn a ph锚l-droed yn rhannu'r un meddylfryd."

Un a fagwyd yn y dref yw Avril Smith, cynorthwyydd yn Ysgol Morgan Llwyd.

"Dwi'n teimlo ei bod yn syniad gwych cael lle i bobl fynd fel yma.

"Pan wnes i adael yr ysgol, es i weithio mewn lle Saesnig a doedd dim cyfle i bobl ifanc fel ni i gymdeithasu yn Gymraeg.

"Dyna be' mae Wrecsam angen ar 么l beth wnaeth ddigwydd gyda'r Eisteddfod; roedd yn gr锚t, ac mae angen rhywbeth i gario pethau 'mlaen."

'Ail-gydio yn yr iaith'

Gwibdaith Hen Fr芒n fydd yn y ganolfan nos Wener a Wee Bag, band Gwyddeleg o Ddinbych yno ddydd Sadwrn.

Mae'r fenter yn gobeithio cynnig cerddoriaeth fyw yn Saith Seren.

"Mae o'n ganolfan Gymraeg, ond does ddim modd cynnal nosweithiau Cymreig bob wythnos, felly bydd croeso i fandiau lleol chwarae yma hefyd," ychwanegodd Mr Jones.

"Mae yna 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam, a lot o ddysgwyr hefyd.

"Os cewn ni 1% o rai 'na yma bob nos mi wnawn ni lwyth o bres.

"Beth sy'n codi calon rhywun yw bod lot o ddysgwyr wedi dod draw yn barod.

'Yn rhydlyd'

"Mae Cymraeg lot o bobl yn rhydlyd ar 么l yr ysgol ac maen nhw eisiau ail-gydio yn yr iaith."

Mae Carrie Harp, un o'r rhai a fydd yn gwirfoddoli i helpu'r pum staff parhaol i redeg y canolfan.

"Does 'na ddim lot o lefydd i fynd yn Wrecsam i ymarfer fy Nghymraeg," meddai'r ddysgwraig.

"Dwi'n adnabod lot o bobl sydd eisiau dysgu ond mae'n anodd ffeindio rhywle i gael sgwrs naturiol tu allan i'r dosbarth."

Mae'r fenter ar fin cychwyn ar y gwaith o ailwampio'r ail lawr er mwyn gallu rhentu ystafelloedd fel swyddfeydd a chreu lle i gynnal dosbarthiadau nos.

Y nod yw gorffen y gwaith erbyn Mehefin 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol