麻豆官网首页入口

Diwedd cyfnod i Fwrdd yr Iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Meri HuwsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meri Huws yw Comisiynydd Iaith newydd Cymru

Deunaw mlynedd ers i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei sefydlu mae'r cyfarfod olaf yn cael ei gynnal ym Mrynaman ddydd Gwener.

Daw'r bwrdd i ben yn swyddogol ar Fawrth 31 a'u dyletswyddau'n cael eu rhannu rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa'r Comisiynydd Iaith Newydd.

Gan fod Meri Huws wedi ei phenodi yn Gomisiynydd Iaith mae disgwyl iddi ymddiswyddo ddydd Gwener fel cadeirydd Bwrdd yr Iaith.

Marc Philips fydd yn cymryd yr awenau am ddau fis.

Disgrifiad,

Garry Owen yn holi Meri Huws

Dywedodd Ms Huws fod y bwrdd wedi cyflawni llawer. "Mae tirwedd ieithyddol Cymru wedi newid cymaint, yn enwedig o ran y sector cyhoeddus, ac mae'n anodd iawn credu'r newid.

"Rydyn ni'n gweld newidiadau yn y sector preifat hefyd o ran busnes, clywed y Gymraeg wrth gerdded i mewn i siopau, rhywbeth nad oedd yn digwydd 18 mlynedd yn 么l.

"Wrth edrych yn 么l, rhaid asesu beth sydd wedi ei gyflawni ond sylweddoli nad yw'n berffaith.

"Ond mae newid wedi bod o ran disgwyliadau ac o ran darpariaeth ac mae sylfeini cadarn i'r dyfodol wedi eu gosod."