麻豆官网首页入口

Adroddiad: 'Peryglon diangen'

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Swyddfeydd Cyngor Sir Benfro

Dywed adroddiad swyddogol fod diffyg herio effeithiol yn golygu bod gwasanaethau sy'n gwarchod plant a phobl ifanc yn sir Benfro yn "agored i beryglon diangen."

Dywed archwilydd cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, bod gormod o anffurfioldeb a diffyg herio effeithiol a chyson wedi gwanhau atebolrwydd.

Mae arweinydd Cyngor Penfro, John Davies, wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud fod ymchwiliadau diweddar gan arolygwyr yn awgrymu bod llywodraethiant y Cyngor mewn cyflwr da.

Cafodd yr archwiliad arbennig ei gynnal mewn ymateb i ddau adroddiad beirniadol ar y Cyngor gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Roedd y ddau adroddiad yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc gan gyfeirio at fethiannau yn arferion yr awdurdod a diffyg llywodraethu effeithiol wrth ddiogelu ac amddiffyn plant.

Ar nodyn cadarnhaol dywedodd Mr Thomas fod gan Gyngor Sir Penfro ddiwylliant cadarnhaol o barch ac ymddiriedaeth sydd wedi cyflwyno manteision.

Newidiadau

Bu archwiliad yr Archwilydd Cyffredinol yn ystyried a oedd y gwendidau yn ehangach na'r rhai a nodwyd yn y ddau adroddiad, yn enwedig a oedd gwendidau atebolrwydd a llywodraethu democrataidd yn rhai systemig.

Yn 么l yr adroddiad roedd angen i'r cyngor wella " rhai arferion rheoli a bod angen i Gynghorwyr ymgysylltu'n well."

Doedd yr archwiliad ddim yn credu bod angen cyflwyno newidiadau cynhwysfawr.

Dywed yr adroddiad nad oes digon o sylw'n cael ei roi i gofnodi trafodaethau, camau gweithredu a phenderfyniadau.

"Mae yna ddiffyg dealltwriaeth ac eglurder ynghylch rhai swyddogaethau a chyfrifoldebau hefyd ynghyd 芒 diffyg tryloywder sy'n golygu bod anghysondebau o ran herio a chraffu'n effeithiol ar bolis茂au a phenderfyniadau," medd Mr Thomas.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno saith argymhelliad ar gyfer gwella, gan gynnwys:

  • Defnyddio fformat dealladwy i egluro swyddogaethau a gwneud penderfyniadau yn well, fel y Cabinet a'r Pwyllgor Craffu, a r么l y T卯m Rheoli Corfforaethol;

  • Sicrhau eu bod yn cadw dogfennau priodol ar gyfer cyfarfodydd, cynigion a phenderfyniadau;

  • Cymryd camau i sicrhau bod Cynghorwyr yn gwybod yn union beth a ddisgwylir ganddynt a'u bod yn cael digon o gymorth effeithiol i gyflawni eu swyddogaethau.

'Arferion rheoli'

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru ddydd Llun:

"Rwy'n fodlon, yn 么l tystiolaeth ein harchwiliad, nad oes angen i Gyngor Sir Penfro ailwampio ei systemau llywodraethu a rheoli'n llwyr a gall y cyhoedd fod yn hyderus bod y Cyngor yn cydymffurfio 芒'i ofynion statudol i wella pethau.

"Wedi dweud hynny, mae angen i'r Cyngor fynd i'r afael 芒 rhai arferion rheoli, fel cyflwyno rhagor o fecanweithiau ffurfiol er mwyn sicrhau ei fod yn gwbl atebol am ei benderfyniadau a'i gamau gweithredu."

'Biwrocratiaeth'

Dywedodd arweinydd cyngor Penfro, John Davies, ei fod yn croesawu'r adroddiad.

"Ers bodolaeth y Cyngor rydym wedi ceisio ein gorau i dorri n么l ar fiwrocratiaeth.

"Rydym wedi ceisio gwneud hyn er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu targedu ar gyfer gwasanaethau rheng flaen.

"Canlyniad hyn yw canfyddiad yr adroddiad fod angen dulliau mwy ffurfiol gan y Cwmni.

"Rydym yn llwyr ymroi i gyflwyno gwelliannau ac rydym yn derbyn argymhellion yr archwilydd cyffredinol. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol