Cymru 'ar y trywydd cywir' o ran taclo newid hinsawdd

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn cynnig 37 o argymhellion ar daclo newid hinsawdd

Mae Cymru "ar y trywydd cywir" i ddelio 芒 newid hinsawdd, ond mae angen i'r llywodraeth wneud mwy i dargedu allyriadau ychwanegol, yn 么l adroddiad.

Mae'r adroddiad cyntaf gan Gomisiwn Newid Hinsawdd Cymru - corff sydd 芒 chynrychiolwyr o sawl maes - yn cynghori'r llywodraeth ac yn cynnig 37 o argymhellion.

Byddai'r corff yn dymuno gweld effeithlonrwydd ynni'n cael ei wella mewn tai, a busnesau yn gwneud ymdrech i fod yn fwy gwyrdd.

Ond mae un busnes yn dweud nad oes 'na agenda clir, er bod Llywodraeth Cymru'n gwadu hyn.

"Mae 'na dros 30 o argymhellion ond y brif neges yw economi carbon isel," meddai Comisiynydd Newid Hinsawdd Cymru, Peter Davies.

"Mae'n creu swyddi, yn lleihau'r ddibyniaeth ar ynni, yn lleihau'r allyriadau CO2 a dyna ble dylai'r flaenoriaeth fod.

"Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach a Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn glir iawn fod hynny'n wendid mawr yn y ffordd rydyn ni'n taclo'r newid i economi carbon isel.

"Yr hinsawdd economi sydd yn gyfrifol bron ein bod hi'n gorfod ymateb.

"Mae arbed ynni'n arbed swyddi. Yn ogystal, os ydyn ni'n buddsoddi mewn datblygiadau carbon isel mae hynny'n creu swyddi a dyna, yn fy nhyb i, ydy'r cyfle mawr i ni."

Cymorth

Un sy'n credu bod 'na ddigon o gefnogaeth ar y cyfan i fusnesau fod yn fwy gwyrdd yw Dafydd Cadwaladr o Fethesda yng Ngwynedd, sydd 芒 busnes torri coed a choed t芒n ac yn cynrychioli Gr诺p Tanwydd Pren Cymru.

"Dwi'n meddwl bod 'na gymorth eitha' da 'di bod dros y blynyddoedd," meddai, "ond yn fwy perthnasol, mae 'na gynllun wedi'i sefydlu drwy'r Comisiwn Coedwigaeth a nawdd o Ewrop - sef y cynllun Ynni Pren ac mae 'na nawdd eitha' hael i'w gael ganddyn nhw."

"Dwi'n meddwl mai sgil effaith llosgi pren ydy gobeithio ail gychwyn rheolaeth coedlanol ac mae gennym ni'n llythrennol gannoedd os nad miloedd o aceri o goed ar ffermydd ac ar diroedd sydd heb gael eu rheoli o gwbl sy'n adnodd amhrisiadwy.

"Beth sy'n fanteisiol iawn, fel ma' ystadegau wedi dangos, ydy mai dim ond 'chydig o reolaeth coedlanol sydd angen - dechrau teneuo dipyn bach, neu glirio coed sydd wedi disgyn - er mwyn creu'r amodau ffafriol i ail dyfu naturiol, ond yn sydyn reit hefyd ma' gennych chi'r cynnydd mewn adar ac anifeiliaid."

'Dim yn eglur'

Ond yn 么l Andrew Jones, rheolwr gyfarwyddwr S&C Electrical Europe Ltd, o Abertawe, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro'n fwy amlwg beth fyddai manteision masnachol carbon isel.

"Mae gan lywodraeth yr Alban agenda clir, sy'n amlwg iawn, maen nhw'n gwneud eu gorau i annog pobl i ddefnyddio ynni adnewyddol," meddai.

"Yng Nghymru ar hyn o bryd, er fy mod i'n gweld yr holl ffigurau'n cael eu cyhoeddi, fyddwn i'n ei chael hi'n anodd dweud beth yn union yw targedau Llywodraeth Cymru neu beth a allan nhw gyflawni.

"Un o'r problemau sydd gennym ni yw bod pobl, pan maen nhw'n gweld polis茂au llywodraeth, yn meddwl yn syth bod hynny'n mynd i gostio rhywbeth ac ar adeg pan mae buddsoddiad yn bwnc sensitif, mae swyddi'n sensitif.

"Os ydych chi'n rheoli'ch defnydd o drydan, rydych chi'n rheoli'ch teithio a faint 'da chi'n cymryd i ddosbarthu nwyddau - os ydych chi'n rheoli hynny'n iawn, gallwch chi dorri eich costau yn y busnes.

Uno

Roedd John Griffiths, y gweinidog amgylchedd, yn gwadu ei bod yn anodd i fusnesau fynd yn wyrdd yng Nghymru.

Meddai: "Rwy'n credu bod gennym system dda iawn yng Nghymru sy'n caniat谩u datblygiad economaidd.

"Ond mae 'na o hyd le i wella ac mae'n cynlluniau ni ar gyfer un corff amgylcheddol, gan ganiat谩u ffordd uniongyrchol, hawdd i wneud pethau, yn gam tuag at hynny."

Mae Mr Griffiths yn credu y bydd y cam o uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru yn ei gwneud yn haws i unigolion a busnesau ddeall rheolau amgylcheddol y wlad.

Yn ddiweddarach ddydd Mawrth, bydd y gweinidog hefyd yn esbonio yn y Senedd beth fydd goblygiadau'r Asesiad Risg Newid Hinsawdd cynta' sy'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU.

Strategaeth

Mae'r asesiad yn tynnu sylw at y 100 prif her sy'n wynebu'r DU ar gyfer gweddill yr 21ain ganrif.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at ariannu'r adroddiad ac wedi sicrhau bod materion Cymreig yn cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori dros dair blynedd.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at effaith newid hinsawdd ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru.

Ym mis Mawrth bydd Mr Griffiths yn cyhoeddi adroddiad blynyddol cynta' Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru.

Bydd hyn yn rhoi darlun mwy diweddar o'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i daclo achosion ac effeithiau newid hinsawdd.