Ymgyrch farchnata i ddenu meddygon

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Mae prinder meddygon sy'n arbenigo mewn rhai meysydd

Mae ymgyrch i ddenu meddygon i Gymru wedi cael ei lansio wrth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol geisio llenwi 200 o swyddi gwag.

Mae'r GIG wedi cael trafferth recriwtio mewn rhai rhannau o Gymru, a thrafferth recriwtio meddygon arbenigol mewn rhai meysydd.

Mae gweinidogion yn cyfadde' mai un broblem benodol yw canfod meddygon i weithio yng ngorllewin Cymru.

Ar ddiwedd Rhagyr 2011, roedd 201 o swyddi gwag i feddygon yn cael eu hysbysebu gan y GIG yng Nghymru.

Mae gwefan arbennig wedi ei chreu i gynnig gwybodaeth i feddygon yngl欧n 芒 byw a gweithio yng Nghymru.

'Unigryw'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae Cymru, fel sawl rhan arall o'r DU, yn cael trafferth denu meddygon i ambell rhan o'r wlad ac i arbenigo mewn rhai meysydd.

"Bydd yr ymgyrch yma'n pwysleisio y gwerthoedd a'r cyfleoedd unigryw sydd gan Gymru i'w cynnig i feddygon yn broffesiynnol ac o safbwynt ffordd o fyw.

"Nid oes pocedi dwfn gan y byrddau iechyd, a rhaid sicrhau bod ganddynt y staff angenrheidiol sydd wedi eu hyfforddi."

Mewn ymateb, dywedodd cymdeithas feddygol y BMA bod ganddynt "ddisgwyliadau uchel" y byddai'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galetach i lenwi'r swyddi gwag.

Dywedodd ysgrifennydd y BMA yng Nghymru, Richard Lewis: "Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig, ond rhaid gwella'n hymdrechion i bwysleisio rhai o'r cyfleoedd gwych sydd gan Gymru i'w cynnig."

Dywedodd yr Athro Peter Donnelly, sy'n goruchwylio hyfforddiant meddygol yng Nghymru, bod y meysydd arbenigol y mae meddygon yn eu dewis yn newid.

Roedd hynny wedi cyfrannu at brinder o arbenigwyr mewn meysydd fel paediatreg, meddygaeth argyfwng a seiciatryddiaeth, meddai.

"Mae gorllewin a gogledd Cymru yn ei chael hi'n anodd i ddenu meddygon dan hyfforddiant," ychwanegodd.

Mewn cyfarfod o bwyllgor iechyd y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd cyfarwyddwr y GIG yng Nghymru, David Sissling, bod rhai swyddi yn wag er iddyn nhw gael eu hysbysebu sawl gwaith.