麻豆官网首页入口

Angen 'gweithredu brys' ar addysg

  • Cyhoeddwyd
Ystafell wisgo ysgolFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un o bob pum plentyn yn gadael yr ysgol gynradd gydag oed darllen o llai na naw a hanner

Mae sefydliad diwydiannol y CBI wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys yngl欧n 芒 chyflwr y byd addysg yng Nghymru.

Mae archwilwyr ysgolion wedi canfod bod 40% o blant yn cyrraedd ysgol uwchradd gydag oed darllen sy'n iau na'u hoed go iawn.

Mae'r CBI hefyd yn nodi ystadegau Pisa o 2010 a ddywedodd bod cyrhaeddiad disgyblion 15 oed yng Nghymru yn salach na llawer o'r byd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen gwelliannau "ar draws y bwrdd".

'Trist'

Dywedodd pennaeth polisi CBI Cymru, Emma Watkins: "Mae adroddiad Estyn yr wythnos hon ynghyd ag ystadegau Pisa yn 2010 yn rhywbeth trist i'w weld.

"Yn 么l Pisa mae Cymru ar waelod gwledydd y DU am ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

"Dyma'r genhedlaeth gyntaf o blant sydd wedi cael eu haddysg i gyd o gan Lywodraeth Cymru.

"Yn amlwg mae'n cymryd amser i newid polis茂au addysg, ond yn yr economi fyd-eang mae'n ras am swyddi."

Sgiliau

Ychwanegodd bod angen i'r sustem addysg ac asiantaethau cyhoeddus chwarae eu rhan.

"Mewn byd lle mae mwy a mwy o swyddi yn gofyn am sgiliau lefel tri neu uwch, mae canlyniadau Pisa ac Estyn yn ei gwneud yn glir bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i godi lefel sgiliau ein pobl ifanc," meddai.

"Bydd y CBI a'i aelodau yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i alluogi hyn i ddigwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog (Leighton Andrews) wedi dweud yn glir bod angen gwella safonau a pherfformiad yng Nghymru yn enwedig mewn rhifedd a llythrennedd.

"Dyna pam mae'r gweinidog wedi cyhoeddi cynllun fydd yn gosod ystod eang o fesurau mewn lle er mwyn cyflawni hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol