麻豆官网首页入口

Pryder am ddyfodol y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Meirion Prys JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meirion Prys Jones: Llai yn defnyddio'r iaith

Mae'r Gymraeg yn "iaith farw" yn gymunedol, dyna rybudd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Daw sylwadau Meirion Prys Jones ar ddechrau'r wythnos sy'n nodi 50 mlynedd ers darlith 'Tynged yr Iaith ' Saunders Lewis.

Ar raglen Sunday Politics 麻豆官网首页入口 Cymru dywedodd fod cynnydd yn y nifer oedd yn gallu siarad yr iaith ond gostyngiad yn y nifer oedd yn ei defnyddio.

"Rwy'n credu fod yn iaith yn tyfu mewn rhai ffyrdd ond fel iaith gymunedol mae'n marw," meddai.

Buddsoddiad

"Er ei bod yn ffynnu mewn rhai agweddau mae hynny o hyd yng nghyd-destun gorfod byw yng nghysgod lingua franca byd eang.

"Er mwyn cael chwarae teg rhaid cael buddsoddiad o ran syniadau ac arloesi."

Ym mis Ebrill bydd dyletswyddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i'r Comisiynydd iaith sy'n cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru.

Ond honnodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud camgymeriad.

"Mae'r traffig o ran hyrwyddo'r Iaith Gymraeg wedi bod o'r bwrdd i'r llywodraeth nid i'r cyfeiriad arall.

"Felly, gyda'r cyfrifoldeb yn awr yn mynd i'r llywodraeth pwy fydd yn arwain y gwaith creadigol?

Hyrwyddo

"Pwy o fewn y cylchoedd gwleidyddol a'r gwasanaeth sifil fydd 芒'r r么l ymarferol, pwy fydd yn dweud 'mae angen i ni wneud rhywbeth am yr iaith Gymraeg, mae mewn argyfwng, sut mae ei hyrwyddo?'"

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd dyletswyddau'r Bwrdd Iaith yn dod i ben ym mis Ebrill

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ei Strategaeth Iaith Gymraeg ar Fawrth 1, ddeng mlynedd ar 么l strategaeth 'Iaith Pawb'.

Ond mae Mr Jones wedi rhybuddio na fydd yr iaith yn goroesi oni bai fod hwb ariannol a newid agwedd gan Lywodraeth Cymru.

"Gallwch gael gymaint o ddeddfwriaeth ag y dymunwch, gallwch gael gymaint o bolis茂au ag y dymunwch, ond oni bai eich bod yn mynd ymysg y bobl a'u darbwyllo bod yr iaith yn ddefnyddiol iddyn nhw, does dim gobaith, yn fy marn i.

"... dwi ddim yn gweld llawer o dystiolaeth ar hyn o bryd fod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r wlad fel gwlad ddwyieithog gyda'r ddwy iaith swyddogol. "

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r llywodraeth yn benderfynol o weld y Gymraeg yn ffynnu.

"Mae ein Strategaeth Iaith Gymraeg, y Mesur Iaith Gymraeg, Strategaeth Addysg cyfrwng-Cymraeg a fframwaith ar gyfer gwasanaethau iaith Gymraeg ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn dyst i hynny.

"Gwnaed y cynnig o drosglwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo'r iaith i'r llywodraeth gan Llywodraeth Cymru'n Un ac mae'r llywodraeth bresennol yn parhau 芒'r polisi hwnnw.

"Unwaith i'r trefniadau newydd ddod i'r fei bydd rhai o staff Bwrdd yr Iaith yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac eraill i'r Comisiynydd Iaith.

"Fe fydd eu sgiliau creadigol yn hanfodol wrth weithredu'r Strategaeth Iaith newydd a'r Mesur Iaith newydd."