麻豆官网首页入口

Dim gwelyau yn opsiwn i ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad am ddyfodol Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog yn argymell ei droi'n ganolfan adnoddau lleol heb welyau i gleifion dros nos.

Byddai hynny'n golygu gwasanaeth gofal diwedd oes a nyrsio yn y gymuned, chemotherapi a phelydr-X - a chleifion sydd angen gwely dros nos yn gorfod mynd i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, 13 milltir i ffwrdd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawu'r adroddiad fydd "o gymorth i lunio ein cynlluniau ehangach ar gyfer gwasanaethau iechyd ar draws y gogledd".

Ond dywedodd Geraint Vaughan Jones, Cadeirydd pwyllgor amddiffyn yr ysbyty, fod "angen gwl芒u yn y Blaenau i bobol yr ardal".

Yn 么l Gwilym Price, aelod o Gyfeillion yr Ysbyty, roedd cefnogaeth fawr yn lleol i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gyhoeddodd yr adroddiad, eu bod yn "disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda'r gymuned leol i weithredu'r argymhellion ...".

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn ceisio cadw'r gwasanaethau presennol yn yr ysbyty godwyd yn 1925 gan arian y chwarelwyr.

Roedd yr adroddiad ar gais y cyn-Weinidog Iechyd, Edwina Hart.

Dr Edward Roberts, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, luniodd yr adroddiad sy'n cynnig tri opsiwn.

Yr Opsiwn Cyntaf fyddai peidio 芒 newid y drefn, opsiwn sydd ddim yn ymarferol, meddai.

Mae'r ddau opsiwn arall yn cynnwys cael gwared ar y 12 o welyau yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Fe fyddai Opsiwn Dau yn datblygu'r ysbyty fel canolfan adnoddau iechyd gydag amrywiaeth o wasanaethau ond nid gwelyau.

'Angen gwariant'

Yn y Trydydd Opsiwn fe fyddai gwasanaeth meddyg teulu lleol yn cael ei ychwanegu at Opsiwn Dau i gyd o dan yr un to.

"Fe fyddai angen gwariant er mwyn gwneud y ganolfan adnoddau lleol yn un addas," meddai'r adroddiad.

"Fe ddylai meddygon teulu ddefnyddio eu sgiliau er mwyn ategu'r gweithwyr proffesiynol sy'n sefydlu'r gwasanaethau allgymorth."

Dywedodd Yr Athro Merfyn Jones, cadeirydd y bwrdd iechyd: "Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb yn ystod y broses sydd eisoes ar y gweill cyn y byddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau am ddyfodol y gwasanaethau."

Fe fydd y bwrdd yn cyfarfod ym mis Mai neu fis Mehefin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol