Ombwdsmon yn cytuno 芒 chwyn am ymchwiliad iechyd

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae Peter Tyndall wedi cytuno 芒 chwyn menyw yn erbyn Cyngor Caerdydd

Mae Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno 芒 chwyn menyw yn erbyn Cyngor Caerdydd yn dilyn triniaeth 'annerbyniol' a dderbyniodd ei g诺r yn nwylo'r gwasanaethau cymdeithasol.

Codwyd yr achos gan staff ysbyty oherwydd eu pryderon yngl欧n 芒'r ffordd y caniatawyd i'r dyn (Mr L) ddatblygu'r radd fwyaf difrifol o friwiau gorwedd.

Roedd 'na nifer o argymhellion gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Peter Tyndall, gan gynnwys gofyn i'r cyngor gynnal ymchwiliad i achosion ble mae staff y gwasanaeth iechyd wedi'u cyhuddo o gam-drin neu esgeuluso.

Roedd y gwyn yn ymwneud 芒 diffygion t卯m Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA) y cyngor wrth iddynt ddelio 芒 phryderon Mrs L yngl欧n 芒 thriniaeth ei g诺r.

Yn 2008/9, roedd Mr L yn 80 oed, yn dioddef o MS ac yn gaeth i'w wely.

Roedd dan ofal ei wraig, gofalwyr proffesiynol a nyrsys ardal. Ond pan ddechreuodd ddioddef o friwiau gorwedd, gadawyd iddynt waethygu i lefel ddifrifol cyn iddo fynd i'r ysbyty.

Daeth POVA at ei gilydd i drafod y sefyllfa, ond bu farw Mr L ychydig wythnosau ar 么l mynd i'r ysbyty.

Er nad oedd Mrs L am wneud cwyn uniongyrchol yn erbyn y gofalwyr iechyd oedd wedi trin ei g诺r, roedd hi am i'r cyngor wrando ar ei chwyn yngl欧n 芒'r ffaith nad oedd rheolwyr POVA wedi ymchwilio i bryderon staff yr ysbyty.

Roedd hi hefyd yn anhapus gyda'r diffyg ymchwil i anghysonderau yn y dystiolaeth a roddwyd gan nyrsys ardal mewn cyfarfodydd POVA i drafod gofal Mr L, cyn ac ar 么l ei farwolaeth.

Iawndal

Yn 么l yr Ombwdsmon, roedd 'na gyfiawnhad i'r g诺yn, a daeth i'r casgliad na fu i'r cyfarfodydd POVA ystyried yr achos a gyfeiriwyd yn ddigonol.

Cefnogodd gwyn arall Mrs L yngl欧n ag ymateb y cyngor i'w phryderon - nad oedd yn ddigon prydlon na sylweddol.

Argymhellodd y dylai'r cyngor dalu iawndal i Mrs L i gydnabod yr amser a gollwyd a'r drafferth a gafodd wrth wneud ei chwyn.

Roedd Mr Tyndall hefyd yn argymell gofyn i'r cyngor sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth eraill mewn perygl ac y dylid cynnal ymchwiliad i achosion ble mae staff y GIG yn cael eu cyhuddo o gam-drin neu esgeuluso, i sicrhau bod 'na ymateb priodol i'r rhain.

Dylid ailystyried yr ymchwiliad gwreiddiol hefyd, yn 么l Mr Tyndall, er mwyn cywiro'r cofnod a sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu.