麻豆官网首页入口

Dim bandio ysgolion cynradd tan 2014

  • Cyhoeddwyd
Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Leighton Andrews: Wedi amddiffyn y polisi gwreiddiol

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi na fydd ysgolion cynradd yn cael eu bandio yng Nghymru tan 2014.

Bydd rhai'n ystyried hwn yn dro pedol ond mae'r Gweinidog wedi honni bod yr oedi oherwydd pa mor gadarn y byddai asesiadau athrawon nid oherwydd y byddai llawer o ysgolion yn cael eu heithrio.

Mae'r undebau wedi croesawu'r penderfyniad.

Fis diwethaf amddiffynnodd Mr Andrews ei bolisi gwreiddiol pan honnodd y gwrthbleidiau ei fod yn ddiwerth.

Roedd wedi dweud wrth ysgolion am ddisgwyl bandiau cychwynnol erbyn y Pasg a rhai terfynol erbyn yr haf.

Eisoes mae ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cael eu gosod mewn pum band.

'Cadarn'

Mae hyn wedi ei seilio ar berfformiad a hefyd nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio ysgol am ddim a ffactorau eraill.

Mae'r gwrthbleidiau wedi dadlau bod system o'r fath yn amhosib eu gweithredu.

Dywedodd Mr Andrews: "Nid wyf yn credu fod gennym ni ar hyn o bryd wybodaeth ddigon cadarn i'w defnyddio ar gyfer penderfynu ar fandiau ysgolion cynradd.

"Bydd angen aros nes bod gwybodaeth fwy cadarn ar gael."

Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, wedi croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi "ildio ar fater cyflwyno bandio ysgolion cynradd yn syth".

Dywedodd fod hwn yn dro pedol.

"Mae'r oedi hwn yn peri embaras i Lywodraeth Lafur Cymru ac yn arwydd o newid trywydd pan ddaw'n fater o fandio ysgolion cynradd.

'Dim cefnogaeth'

"Gorfodwyd y Gweinidog i weithredu fel hyn ar 么l iddi ddod yn amlwg nad oedd cefnogaeth i'w gynlluniau.

"Bellach, dylai gymryd y cam anrhydeddus a rhoi'r gorau i'r syniad yn llwyr. Mae Plaid Cymru wedi dweud dro ar 么l tro y dylid dileu bandio ar gyfer ysgolion cynradd."

Nid oedd bandio, meddai, yn rhoi gwedd gyflawn ar berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau'r gefnogaeth angenrheidiol i unrhyw ysgol er mwyn gwella'r meysydd hynny fyddai'n cael eu mesur trwy'r bandio.

Dywedodd Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru: "Mae'r Gweinidog wedi gwneud penderfyniad doeth a dewr ac mae'n dangos ei fod wedi gwrando ar ddadl bwyllog a rhesymol ATL Cymru ac undebau eraill.

"Bydd yr oedi'n sicrhau y bydd y wybodaeth fydd yn cael ei defnyddio yn rymus ac yn cael ei pharchu.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i addysg Cymru."

'Gwrthwynebu'

Dywedodd Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: "Fel undeb rydyn ni'n dal i wrthwynebu bandio ysgolion cynradd mewn unrhyw ffordd.

"Ond os bydd rhaid cyflwyno'r system fandio rywbryd, o leiaf mae'r Gweinidog wedi rhoi cyfle i bartneriaid gydweithio i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau."

Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd addysg y Ceidwadwyr: "Mae'r cynlluniau i fandio ysgolion wedi wynebu cwestiynau arbenigwyr blaenllaw yngl欧n 芒 pha mor fuddiol ydyn nhw fel adnodd os yw hyd at draean ohonyn nhw'n cael eu heithrio.

"Mae'n bwysig cael at wybodaeth gywir a chyson o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd pobl ifanc.

"Roedd y cynlluniau amrwd hyn wedi eu cyflwyno heb ymwneud digonol 芒 rhieni ac athrawon."

Cytunodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, fod penderfyniad y Gweinidog yn gywir.

"Rydyn ni'n llongyfarch y Gweinidog am ei barodrwydd i wrando ar bryderon athrawon a phenaethiaid ysgolion ynghylch y mater hwn.

"Rydyn ni'n gobeithio y gallwn gydweithio i lunio fframwaith gwir bwerus i wella ysgolion Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol