Cwmni Redrow yn gwneud elw

Mae'r cwmni adeiladu Redrow wedi gweld cynnydd mewn elw cyn treth yn y chwe mis hyd at fis Rhagfyr.

Fe wnaeth y cwmni o Sir y Fflint 拢15.3 miliwn.

Mae hyn 80% yn uwch na'r 拢8.5 miliwn ar gyfer yr un adeg y llynedd.

Dywedodd sefydlydd Redrow, Steve Morgan, bod eu cynlluniau yn "mynd o nerth i nerth".

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1974.

Fe wnaeth Mr Morgan, perchennog clwb p锚l-droed Wolverhampton Wanderers, ail-ymuno 芒'r cwmni dair blynedd yn 么l ar 么l canlyniadau gwan.

Y gobaith yw codi mwy o dai i deuluoedd yn hytrach na fflatiau.

"Mae'r canlyniadau yma heddiw yn dangos bod y newid yn ein strategaeth yn talu ffordd," meddai Mr Morgan.

Dywedodd Redrow bod arwyddion gobeithiol am ddyfodol y farchnad dai.