UCAC yn gwrthod cynnig pensiwn

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Dywed yr undeb fod y posibilrwydd o gynnal streic arall yn dal yn agored

Mae undeb athrawon UCAC wedi dweud bod yr opsiwn o streicio yn dal yn bosibilrwydd wedi iddynt wrthod cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Cynllun Pensiwn Athrawon.

Dywedodd cyngor cenedlaethol yr undeb eu bod wedi penderfynu'n unfrydol i wrthod y cynnig diweddaraf.

Mae'r undeb sy'n cynrychioli athrawon a darlithwyr yng Nghymru yn dymuno parhau mewn trafodaethau gyda'r Llywodraeth, ac mi fydd yn ymgyrchu ar y cyd ag undebau eraill i sicrhau newidiadau pellach i'r cynnig.

Dywed yr undeb fod y posibilrwydd o gynnal streic arall yn dal yn agored.

'Rheolaeth gadarn'

Yn 么l Llywodraeth y DU, mae'r cynnig yn ceisio dal y ddysgl yn wastad.

Yn dilyn cyfarfod yn eu pencadlys yn Aberystwyth ddydd Gwener, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC "Rydym wedi cynnal arolwg o farn aelodau ar y mater hwn, ac mae'r neges wedi dod yn 么l yn ddiamwys.

"Mae cynnig y Llywodraeth yn gwbl annerbyniol ac mae athrawon a darlithwyr yn barod i weithredu ymhellach i sicrhau tegwch."

Dim ond undeb ATL, sy'n cynrychioli athrawon a darlithwyr coleg, ac undeb yr ASCL, sy'n cynrychioli rheolwyr ysgolion a cholegau, sydd wedi derbyn y cynigion y llywodraeth i newid pensiynau addysg y sector cyhoeddus.

Mae Adran Addysg a Sgiliau'r Llywodraeth yn honni bod y cynnig yn dal y fantol rhwng gwarantu pensiwn da i athrawon yn y dyfodol ond "cadw costau tymor hir o dan reolaeth gadarn".