550 o brotestwyr iechyd y tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r trigolion yn poeni am newidiadau posib

Mae 550 o ymgyrchwyr sy'n poeni am ddyfodol Ysbyty Bronglais wedi protestio tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd.

Cyrhaeddon nhw am 11:45am a gadael erbyn 1pm.

Cyfarfu ymgyrchwyr a chynrychiolwyr gwleidyddol o'r canolbarth 芒 Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Ceredig Davies o Aberystwyth wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Fe deithiodd 12 bws o Geredigion ... ry'n ni'n gobeithio bod y Gweinidog wedi cael y neges gryf taw ein disgwyliadau ni yw bod ni ddim yn colli gwasanaethau o gwbwl."

Yn annerch y protestwyr roedd AC Ceredigion, Elin Jones, yr AS Mark Williams, Yr Arglwydd Elystan Morgan cyn-AS Ceredigion, a Maer Aberystwyth Richard Boudier.

Berynhawn Mawrth dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, na fyddai Ysbyty Bronglais yn cael ei israddio ac mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud nad oes penderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol gwasanaethau yno.

Roedd ffrae rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru cyn y brotest.

Honnodd Plaid Cymru fod Llywodraeth Cymru yn peryglu bywydau cleifion gyda'u cynlluniau i "symud gwasanaethau achub bywyd yn bellach i ffwrdd o gleifion".

Gwadodd Llywodraeth Cymru'r honiad, gan gyhuddo Plaid Cymru o "godi bwganod".

Marwolaeth cleifion

Eisoes mae staff a chleifion wedi mynegi pryder y gallai rhai o'r gwasanaethau symud o Geredigion i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin fel rhan o gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Disgrifiad o'r sainAlun Thomas yn holi Hywel Griffith

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod Uned Gofal Meddygol Prifysgol Sheffield wedi ymchwilio i'r berthynas rhwng y pellter o ysbyty a marwolaeth cleifion mewn achosion brys.

Roedd yr ymchwil wedi casglu bod "cynyddu pellter y daith i ysbyty yn gysylltiedig 芒 chynyddu'r perygl o farwolaeth".

Mae Ysbyty Bronglais yn gwasanaethu Ceredigion, rhannau o Bowys a de Gwynedd.

Cyfarfod cyhoeddus

Ar ddechrau'r mis roedd dros 500 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth i fynegi eu pryder am y sefyllfa.

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd gynlluniau posib i newid darpariaeth gofal brys yn ysbytai'r canolbarth a'r gorllewin.

'Yn anodd iawn'

Disgrifiad o'r sainAdroddiad Cemlyn Davies

Cyn y brotest dywedodd Mr Boudier: "Byddaf yn dweud wrth y rali pa mor hanfodol ydi Ysbyty Bronglais i ganolbarth a gorllewin Cymru.

"Os yw Hywel Dda yn penderfynu israddio uned frys Bronglais, yna gallai hynny fod yn anodd iawn pebaech chi'n cael damwain yn rhywle fel Machynlleth.

"Mae'n bosib y byddai'n rhaid teithio am ddwy awr i Gaerfyrddin.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac i rwystro'r bwrdd iechyd rhag bwrw mlaen gyda'u cynlluniau."

Dydd Mawrth yn y Senedd dywedodd Prif Weinidog Cymru fod 拢32 miliwn yn cael ei wario ar unedau mamolaeth ac unedau brys newydd.

Dim israddio

Dywedodd na fyddai Bronglais yn cael ei israddio.

"Am ryw reswm mae nifer o bobl yn yr ardal yn meddwl y bydd gwasanaethau yn diflannu," meddai.

"Dyw hynny ddim yn wir."

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn gwrando ar farn pobl Ceredigion ond nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud.

"Dyw hwn ddim yn ymgynghoriad ar hyn o bryd ond nifer o ddigwyddiadau lle rydym yn cwrdd 芒'r cyhoedd, staff a phartneriaid gyda'r nod o ddeall yr her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd," meddai llefarydd.

Ychwanegodd nad oedd peidio ag ad-drefnu'n opsiwn.

"Byddwn yn casglu barn a syniadau gwahanol fydd yn y pen draw yn llunio opsiynau fydd yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn."