麻豆官网首页入口

Arolwg: 66% o blaid pwerau trethu ond 8% o blaid annibyniaeth

  • Cyhoeddwyd
Y Ddraig GochFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 36% yn cefnogi ychwanegu at bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol

Wrth i bron 66% awgrymu mewn arolwg barn y dylai'r Cynulliad gael rhyw fath o hawl ar drethi Cymru, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod angen datrys "tangyllido" o du'r Trysorlys.

Daw sylw Carwyn Jones wrth i 麻豆官网首页入口 Cymru gyhoeddi arolwg barn.

Yn 么l canlyniadau arolwg cwmni ICM, mae 36% o'r rhai a holwyd yn credu y dylai'r Cynulliad gael amrywio rhai trethi tra bod 26% yn credu y dylai'r Cynulliad reoli'r system dreth i gyd.

Roedd 32% yn erbyn rhoi pwerau trethu i'r Cynulliad.

Dywedodd Mr Jones fod asesiadau annibynnol wedi dangos nad oedd Cymru'n derbyn digon o arian oddi wrth y Trysorlys - tangyllido o 拢300,000 y flwyddyn.

"Os ydyn ni'n derbyn mwy o bwerau dros dreth incwm, byddai'r tangyllido yno am byth. Dyw hynny ddim er lles Cymru."

Mae'r arolwg wedi awgrymu nad yw'r gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar gynnydd.

12%

Dim ond 8% oedd yn ffafrio Cymru annibynnol, 12% pe bai'r Alban yn annibynnol.

Flwyddyn ar 么l y refferendwm pwerau'r Cynulliad, mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o bobl yn gefnogol i'r Cynulliad ar ei ffurf bresennol neu'n dymuno cryfhau pwerau.

Disgrifiad,

Alun Thomas yn holi'r Athro Richard Wyn Jones

Dim ond 22% oedd yn dymuno dileu'r Cynulliad tra bod 36% yn cefnogi ychwanegu at y pwerau a 29% yn fodlon ar y pwerau presennol.

Mae 'na gefnogaeth gref i safiad Llywodraeth Cymru dros gadw'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyr o fewn y sector gyhoeddus.

Mae'r arolwg wedi awgrymu mai dim ond 18% o'r rhai a holwyd oedd yn credu y dylai'r Llywodraeth efelychu'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr. Roedd 70% yn gwrthwynebu gwneud hynny.

Holodd ICM 1,000 o bobl rhwng Chwefror 26 a 28 ar gyfer Arolwg Blynyddol Dydd G诺yl Dewi 麻豆官网首页入口 Cymru.

'Tyfu'

"Mae'r arolwg yn cadarnhau fy marn bod datganoli wedi ennill ei blwy' yng Nghymru ac fel cenedl mae'r hyder sydd gennym yn ein hunain wedi tyfu," meddai Mr Jones.

"Wrth s么n am annibyniaeth, rwy'n credu mai dyfodol Cymru yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig oherwydd yn y pen draw rydym yn gryfach gyda'n gilydd nag ar wah芒n.

"Yn syml, nid yw annibyniaeth er budd gorau Cymru.

"Mae yna drafodaeth i'w chael am drosglwyddo rhai pwerau trethu i Gymru.

"Rwy wedi galw sawl gwaith am bwerau benthyg llawn gan mai ni yw'r unig ran o'r DU lle nad yw'r llywodraeth yn gallu benthyg er mwyn talu am ysbytai a ffyrdd.

"Rwy hefyd wedi codi'r posibilrwydd o ddatganoli materion fel treth stamp a threth teithwyr awyr fel rhan o becyn cynhwysfawr o ddiwygiadau i Gymru."

'Plaid yr Undeb'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymru eu bod wedi croesawu'r arolwg.

Disgrifiad,

Alun Thomas yn holi Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

"Ceidwadwyr Cymru yw plaid yr Undeb ac rydym yn falch bod yr arolwg yn dangos bod pobl Cymru yn teimlo'r un fath," meddai'r arweinydd yn y Cynulliad, Andrew R T Davies.

"Mae Cymru'n wlad eofn a dyfeisgar syn chwarae r么l bositif iawn o fewn y Deyrnas Unedig.

"Mae'r dadleuon o blaid y DU yn glir, mae wedi bod yn gadernid diwylliannol a gwleidyddol sy'n manteisio pob cornel ohoni.

"Gyda'i gilydd mae gan y DU rym byd-eang, gyda sedd barhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, rhan flaenllaw gyda NATO, y Gymanwlad, Ewrop a thu hwnt.

"Rydym yn gyfoethocach oherwydd y tu mewn i'r DU, mae Cymru, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Lloegr y seithfed economi fwyaf ar y blaned ac yn un o bwerau masnachu mwya'r byd.

"Mae canlyniadau'r arolwg yma'n cadarnhau bod obsesiwn y cenedlaetholwyr gydag annibyniaeth yn eu gosod ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru, tra byddwn ni yn dal i ganolbwyntio ar faterion o bwys o bobl Cymru fel treth cyngor sy'n cynyddu, ysgolion, swyddi a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol."

Dywedodd Plaid Cymru, yr unig un o'r pedair prif blaid sy'n ffafrio annibynniaeth, bod y gefnogaeth am fwy o bwerau yn dangos bod Cymru "yn tyfu mewn hyder".

"Mae pobl Cymru yn rhoi eu hymddiriedaeth fwyfwy yn y Cynulliad ac mewn datganoli gan eu bod eisiau gweld mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru," meddai Ll欧r Huws Gruffydd.

'Anorfod'

Dywedodd Rachel Banner, o Gwir Gymru, a ymgyrchodd ar gyfer pleidlais Na yn y refferendwm y llynedd, fod gwleidyddion wedi dehongli'r bleidlais Ie ar bwerau deddfu fel ffordd o gael mwy o reolaeth ar faterion.

"Ym mis Mawrth y llynedd fe ddywedwyd na fyddai pleidlais Ie yn arwain at bwerau trethu a dyma ni - wedi cael Comisiwn Silk.

"Mae p诺er i drethu ar ei ffordd, mae'n anorfod.

"Mae 'na gyfres o bethau yn digwydd o ganlyniad i'r refferendwm y llynedd sydd erioed wedi cael ei thrafod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol