Cleifion yn aros am hyd at 14 awr

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y bwrdd iechyd ei bod yn 'gyfnod o brysurdeb eithriadol'

Bu'n rhaid i naw o gleifion fod ar droli am wyth awr a rhai am chwe awr ychwanegol wrth aros am wely yn Uned Frys Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae'n debyg mai diffyg gwelyau a phwysau ar yr uned oedd y rheswm am hyn.

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymddiheuro i gleifion.

Dywedodd y bwrdd iechyd fod "cleifion wedi aros yn hir" ers prynhawn Mawrth.

"Mae ein staff llinell flaen yn gweithio'n galed iawn mewn amgylchiadau anodd," meddai llefarydd.

"Tra bod y pwysau yn parhau ar yr uned frys, mae'r bwrdd iechyd yn sicrhau bod cleifion yn ddiogel wrth aros i gael eu trosglwyddo."