Cyngor nawddsant i arbed ynni

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Mae un o'r cynlluniau solar yng Nghastell Penrhyn ger Bangor

I ddathlu Dydd G诺yl Dewi, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod wedi gorffen saith o gynlluniau i arbed ynni ar eu safleoedd, gydag un arall yn agos at gael ei gwblhau.

Mae t卯m ynni'r sefydliad wedi gosod paneli solar yn y saith eiddo sy'n gallu cynhyrchu 222MWh o ynni bob blwyddyn - digon i gyflenwi 40 o gartrefi am y flwyddyn.

Bydd y saith cynllun, ynghyd 芒 chynllun ynni hydro 600kW yn Hafod y Llan yn Eryri, yn rhoi'r Ymddiriedolaeth ar y ffordd i gyrraedd eu nod o dorri eu dibyniaeth ar danwydd fossil o 50% o fewn yr wyth mlynedd nesaf.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dywed yr Ymddiriedolaeth eu bod eisoes wedi lleihau ei ddefnydd o ynni o 46%.

'Pethau bach'

"Mae un o'n ymgynghorwyr amgylcheddol, Keith Jones, yn hoff o ddyfynnu cyngor ein nawddsant i "wneud y pethau bach", a chyfuno'r pethau bach sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'n defnydd o ynni," meddai cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru, Justin Albert.

"Gobeithio y gall dilyn y cyngor yna fod yn esiampl wych i weddill Cymru."

Yr wythfed cynllun fydd yr un yn Ynysgain Fawr, ac mae disgwyl i hwnnw gael ei gwblhau erbyn Mawrth 31 eleni.