麻豆官网首页入口

Cyhoeddi strategaeth iaith newydd

  • Cyhoeddwyd
Adeilad y SeneddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio barn nifer o gyrff

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi ddydd Iau er mwyn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Nod y cynllun iaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd a'r bwriad yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn eu hamser hamdden.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori gyda nifer o gyrff.

Y nod yw sicrhau mwy o ddefnydd o'r iaith yn y gymuned, o fewn teuluoedd, ymysg plant a phobl ifanc, darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion ac annog rhagor o ddefnydd o'r iaith yn y gweithle.

Mwy o ddefnydd

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Leighton Andrews

Mae'n ymddangos mai'r pwyslais mwyaf fydd ar annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith yn gymdeithasol.

"Rydyn ni'n trafod yn y strategaeth hon ffyrdd i bobl ddefnyddio'r iaith gyda thechnoleg newydd, technoleg cyfryngau cymdeithasol ac mae'n bwysig annog rhieni i ddefnyddio'r iaith gyda phlant, " meddai Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith, Bethan Jenkins, fod y strategaeth yn gam ymlaen.

Roedd yn hanfodol, meddai, sicrhau ei bod hi'n haws i siaradwyr dderbyn gwasanaethau yn yr iaith.

'Positif'

"Bydd hynny'n golygu canlyniadau poistif o ran statws yr iaith yn y gymdeithas ac rwy'n edrych ymlaen at weld Cymru yn elwa ar hyn," meddai.

Daw'r strategaeth wrth i lywodraeth ad-drefnu'r cyrff sy'n gyfrifol am hybu'r iaith.

Bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth a Chomisiynydd Iaith newydd yn dechrau ar Ebrill 2.