麻豆官网首页入口

'Trawsnewid' gofal cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Hen berson gyda gofalwrFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan fis Mehefin

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r cynigion, medd y llywodraeth, yn cynnwys rhoi mwy o reolaeth i bobl dros y gofal y maent yn ei dderbyn a mwy o hawl i ofyn am asesiad o'u hanghenion.

Lansiodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ymgynghoriad cyhoeddus ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), deddfwriaeth sy'n ceisio trawsnewid y ffordd o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Nod y Mesur arfaethedig yw rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa wasanaethau y mae eu hangen arnynt, ac ar yr un pryd cynnig gwasanaethau cyson o ansawdd da ledled y wlad.

Amcanion

Byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn:-

  • Caniat谩u i Weinidogion Cymru ystyried ymestyn yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a hynny drwy wneud taliadau uniongyrchol. Byddai hynny'n golygu bod gan bobl fwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.

  • Cyflwyno meini prawf cymhwysedd cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu yn 么l eu hanghenion, yn hytrach na mewn perthynas 芒'r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.

  • Cyflwyno asesiadau symudol, sy'n golygu y bydd gan bobl yr hawl i gael gwasanaethau tebyg os byddant yn symud i rywle arall yng Nghymru, heb fod yn rhaid cael asesiad newydd o'u hanghenion os nad yw'r rheini wedi newid.

  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth i ofalwyr am eu hawliau a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol.

  • Creu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol i wella canlyniadau lleoliadau plant.

Bydd camau hefyd i gryfhau r么l Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn ategu'r newidiadau sydd wedi'u cyhoeddi eisoes i foderneiddio system gwyno'r gwasanaethau cymdeithasol.

'Pwerau newydd'

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad 芒 Chanolfan Dewis Byw'n Annibynnol ym Mhontypridd, sef mudiad gwirfoddol sy'n cefnogi hawl pobl anabl i ddatblygu eu ffordd o fyw annibynnol eu hunain.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae'r Mesur hwn yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n defnyddio pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.

"Dydyn ni ddim yn barod i eistedd yn 么l a gwneud dim, gan weld llai a llai o bobl yn llwyddo i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

"Bydd y Mesur yn ei gwneud yn orfodol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnal a gwella lles pobl mewn angen.

"Bydd mwy o ffocws ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, a bydd yn rhaid wrth fwy o weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau o du'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

"Mae'n hanfodol bod defnyddwyr y gwasanaethau a'u gofalwyr yn rhan o'r broses, a rhaid i asesiadau ystyried y canlyniadau sydd yn bwysig iddyn nhw, yn hytrach na dim ond eu cymhwysedd i gael gwasanaeth penodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am dri mis, o Fawrth 12 hyd at Fehefin 1 2012.

Ymateb

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan elusen Age Cymru, sydd wedi galw am i'r system gofal fod yn haws i'w ddeall fel bod y cyhoedd yn gwybod beth yw eu hawliau.

Eglurodd pennaeth polisi'r elusen, Graeme Francis: "Mae'r Mesur Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gosod y llwyfan i bobl Cymru gael trafodaeth hanfodol ar sut y byddwn yn gofalu am rhai o bobl mwyaf bregus Cymru yn y dyfodol.

"Mae hwn yn gyfle i ddatgan yn glir beth all y cyhoedd ddisgwyl i gael o'r system, ac mae'n gyfle hefyd i adeiladu ar, a gwella, y gwasanaethau gofal sydd ar gael ar hyn o bryd, tra'n amddiffyn y gwasanaethau sy'n cael eu derbyn gan bobl anabl gydag anghenion gofal."

Meini prawf

Mae Age Cymru am i'r Mesur gyflwyno cyfres o feini prawf cymhwyster i'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn taclo anghysondebau yn y system bresennol.

Mae'r elusen hefyd yn galw am wasanaethau sy'n caniat谩u i bobl gael cyfle i gael adferiad llwyr wedi salwch i fod ar gael drwy Gymru.

Ychwanegodd Mr Francis: "Ar y cyfan mae'r Mesur yn gyfle i ddarparu dull cyson o ddelio gyda gofal ar draws Cymru.

"Ond y manylion sy'n bwysig, ac fe ddylai unrhyw newidiadau sicrhau bod pobl sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd ddim yn cael eu gadael mewn sefyllfa waeth nag ar hyn o bryd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol