Clod i wasanaeth addysg Cyngor Sir Ddinbych

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod yr adroddiad yn hwb mawr i hyder

Mae gwasanaethau addysg yn Sir Ddinbych a gafodd eu beirniadu pum mlynedd yn 么l gan y corff sy'n arolygu ysgolion yng Nghymru wedi cael canmoliaeth mewn adroddiad newydd.

Yn 么l adroddiad Estyn yn dilyn yr archwiliad yn 2007 roedd gwasanaethau addysg y sir yn "anfoddhaol".

Ond yn dilyn archwiliad o wasanaethau addysg yn Ionawr a Chwefror eleni, mae'r sir yn sgorio 'ardderchog' am arweinyddiaeth a 'da' am bob agwedd arall o'r adroddiad, efo rhagolygon 'da' am welliant pellach.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod yr adroddiad yn hwb mawr i hyder a cham sylweddol ymlaen tuag at ddod yn wasanaeth ardderchog.

Gwella'n sylweddol

Mae adroddiad yr archwiliad diweddaraf yma'n amlygu llawer o gyflawniadau gan gynnwys:

  • Mae perfformiad wedi gwella'n gyflymach nag ar draws Cymru yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 4; roedd Cyfnod Allweddol 3 wedi cynnal yr un gwelliant 芒 gweddill Cymru tan 2010, er ei fod wedi gwella'n arafach yn 2011.
  • Mae nifer ysgolion Sir Ddinbych sy'n gorfod cael sylw dilynol yn dilyn archwiliad ymysg yr isaf yng Nghymru.
  • Mae presenoldeb yn dda ac mae wedi gwella.
  • Ychydig iawn o waharddiadau parhaol sydd yna ac mae nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd gwaharddiad ymysg y lleiaf yng Nghymru.
  • Mae canran y dysgwyr Blwyddyn 11 sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth wedi lleihau'n gyson yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'n well na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru
  • Mae cefnogaeth i wella ysgolion wedi gwella'n sylweddol ers yr archwiliad diwethaf.
  • Mae'r awdurdod yn addysgu ychydig dros hanner y dysgwyr 芒 datganiadau mewn ysgolion prif lif, gyda'r rhan fwyaf o'r disgyblion hyn yn mynychu dosbarthiadau prif lif efo'u cyfoedion.
  • Bydd swyddogion yn cynorthwyo ysgolion yn dda gyda datblygu polis茂au priodol i daclo bwlio a chodi ymwybyddiaeth o bob ffurf ar seiberfwlio
  • Mae'r awdurdod ag ystod o gymorth priodol ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.

'Diwrnod balch'

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg: "Mae'r adroddiad hwn yn bositif eithriadol ac yn adlewyrchu'r ymrwymiad sydd yna yn Sir Ddinbych i wella safonau mewn addysg.

"Roedd yna gefnogaeth drawsbleidiol eang i wella addysg ac fe gafwyd ymdrech fawr gan ein staff, ysgolion, cynghorwyr, cyrff llywodraethol a rhieni i droi pethau o gwmpas.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Sir Ddinbych: "Mae hwn yn ddiwrnod balch iawn i Sir Ddinbych. Roedd yna dderbyniad eang pan gawson ni ein harchwilio yn 2007 fod angen i ni gyflwyno rhai gwelliannau mawr i'n gwasanaethau addysg.

"O'r dydd hwnnw fe wnaeth y Cyngor wella addysg yn brif flaenoriaeth ac fe roddwyd llawer o adnoddau i mewn i droi'r gwasanaeth o gwmpas".

"Rydyn ni wedi cyflwyno ffyrdd cadarn o weithio, rydyn ni wedi craffu ein gwaith fel nas gwelwyd erioed o'r blaen, ond yn fwyaf pwysig rydyn ni wedi gwella'r cyfathrebu a'r ymgynghori 芒'n hysgolion.

"Rydyn ni i gyd ag un prif nod, i wella safonau addysg yn Sir Ddinbych. Credwn ein bod wedi gwneud hynny yn null Sir Ddinbych ac rydyn ni'n eithriadol falch o'n cyflawniadau."