麻豆官网首页入口

Pryderon am esgeulustod plant

  • Cyhoeddwyd
Plentyn (cyffredinol)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r elusen yn rhybuddio fod esgeulustod yn gallu 'difetha plentyndod'

Mae nifer o athrawon ac arbenigwyr iechyd yng Nghymru'n dweud nad ydynt yn si诺r sut i ymateb i achosion honedig o esgeulustod plant.

Yn 么l gwaith ymchwil gan elusen Action for Children, mae bron i dri chwarter (74%) athrawon ac arbenigwyr iechyd yng Nghymru'n dweud eu bod yn amau fod plentyn maen nhw wedi dod i gysylltiad 芒 nhw wedi'i esgeuluso, ond nad oes ganddynt y grym i wneud unrhyw beth yngl欧n 芒'r mater.

Dywed athrawon, gweithwyr iechyd a staff gofal plant eu bod yn fwyfwy ymwybodol fod plant yn cael eu hesgeuluso ond nad ydynt yn si诺r sut i ymateb.

Mae nifer, yn 么l yr elusen, wedi rhannu eu pryderon yngl欧n 芒 chyfeirio achosion, gydag athrawon hyd yn oed yn s么n eu bod yn cael trafferth cysgu oherwydd eu bod yn poeni cymaint am rai plant.

Cafodd arolwg ei gynnal fel rhan o adolygiad ar draws y DU i esgeulustod plant, y cynta' mewn cyfres o arolygon blynyddol gan Brifysgol Stirling ar ran Action for Children.

Sgil effeithiau

Roedd dros 4,000 o bobl wedi cael eu holi, yn aelodau cyffredin o'r cyhoedd neu'n weithwyr proffesiynol, ac roedd 47 o awdurdodau lleol yn rhan o'r ymchwil.

Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil wrth i bron i hanner athrawon a gweithwyr iechyd Cymru (47%) ddatgelu fod plant sydd wedi'u hesgeuluso'n fwy tebygol o ddiodde' sgil effeithiau difrifol iawn.

Mae'r rhain yn cynnwys teimlo'n unig, problemau emosiynol neu feddyliol, iechyd corfforol gwael, diffyg cyrhaeddiad yn yr ysgol, triwantiaeth neu sgiliau cymdeithasol gwan.

Roedd yr adroddiad gan yr elusen hefyd yn honni fod bron i hanner (44%) y plismyn a'r gweithwyr cymdeithasol a holwyd yn dweud nad oeddynt yn gwybod sut i ymateb os oeddynt yn amau fod plentyn yn cael ei esgeuluso.

Roedd 81% o weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad gyda phlant yn amau achosion o blant yn cael eu hesgeuluso.

Roedd y gweithwyr hyn hefyd yn nodi y byddai'n help petaent yn gallu cofnodi amheuon llai difrifol cyn i'r achosion waethygu.

'Difetha plentyndod'

Yn 么l 80% o weithwyr cymdeithasol, bydd toriadau i wasanaethau'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i ymyrryd mewn achosion o esgeuluso plant.

Roedd dros draean (37%) o'r cyhoedd yn dweud y bydden nhw'n hoffi mwy o wybodaeth yngl欧n 芒 phwy i gysylltu 芒 nhw petai nhw'n amau fod plentyn yn cael ei esgeuluso.

Dywedodd Barbara Street, Cyfarwyddwr Gweithredol elusen Action for Children yng Nghymru:

"Mae esgeulustod yn gallu difetha plentyndod, yn golygu fod y plant mwya' bregus yn colli gobaith, hapusrwydd a chyfleoedd mewn bywyd.

"Dim ond cyffwrdd 芒'r wyneb ydyn ni gydag esgeulustod plant, ac mae 'na filoedd yn fwy sydd angen cymorth.

"Rydym yn croesawu ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru tuag at ymyrryd yn gynnar. Mae cynlluniau fel 'Dechrau'n Deg' yn rhoi sylfaen gref ac rydym nawr yn teimlo bod angen gwneud llawer mwy.

"Mae mesur Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn rhoi gwir gyfle i fynd i'r afael 芒'r materion hyn a bydd Action for Children yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod hyn yn digwydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol