Galw am ymchwiliad wedi cwyn yn erbyn Cyngor Sir G芒r

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae Delyth Jenkins yn honni iddi gael ei thrin yn annheg, a'i bod wedi cael ei hanwybyddu gan rai o fewn y cyngor ar 么l iddi gwyno

Mae sefydlydd elusen gofal wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i sut y deliodd Cyngor Sir Caerfyrddin 芒 chwynion cam-drin honedig mewn canolfan ddydd i oedolion bregus.

Ar raglen Taro Naw 麻豆官网首页入口 Cymru mae Eileen Chubb o elusen Compassion In Care yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried o'r newydd ar yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio'n "fethiant gwarthus."

"Mae angen i bawb ddysgu gwersi o'r achos oherwydd fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw gyngor," meddai.

"Rwy'n credu bod angen edrych ar hyn yn fanwl iawn ar lefel genedlaethol a lleol. Mae'n rhaid cael ymchwiliad swyddogol gan y llywodraeth i'r mater."

Tynnwyd sylw'r cyngor at y cam-drin honedig yn haf 2005 wedi i wraig oedd yn gweithio yn y ganolfan leisio ei phryderon wrth ei phenaethiaid yn yr awdurdod.

Ombwdsmon

Ym Mehefin 2005 honnodd Delyth Jenkins, swyddog gweinyddol yn y ganolfan, iddi weld aelod o staff, Swyddog B, yn tynnu dynes ag anableddau dysgu difrifol oddi ar y llawr a'i gwthio i mewn i d欧 bach lle clywodd gweithwraig arall Swyddog B yn taro'r fenyw anabl.

Cwynodd Mrs Jenkins am ddigwyddiadau honedig eraill o gam-drin seicolegol yn ymwneud 芒 Swyddog B.

Ond roedd hi'n teimlo nad oedd y cyngor wedi delio 芒'i phryderon ac aeth 芒'i chwynion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae'r cyngor wedi dweud bod eu dulliau gweithredu wedi newid ers yr achos chwe blynedd yn 么l.

"O'n i ddim yn teimlo bod y cyngor yn rhoi digon o sylw i 'nghwynion i," meddai Mrs Jenkins.

"Dylen nhw fod wedi cysylltu 芒 fi'n gyson ond o'n i ddim yn cael hynny o gwbl. O fewn deuddydd i fi fynd 芒'r achos at yr Ombwdsmon ges i glywed y byddai fe'n ymchwilio i'r gwyn."

Ychydig wythnosau wedyn yng Ngorffennaf 2006 honnodd Mrs Jenkins a gweithwyr eraill yn y ganolfan iddyn nhw weld yr un ddynes anabl - y gyfeiriwyd ati fel 'Sally' - yn cael ei tharo ar draws ei phen gan weithwraig arall ymddiswyddodd fis wedi hynny.

Damniol

Ym Medi 2009 cyhoeddodd yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, adroddiad damniol gasglodd fod y cyngor yn euog o fethiant "trychinebus" wrth ddelio gyda'r achos.

Wedi blwyddyn o salwch o ganlyniad i straen yr ymchwiliad a'i hamgylchiadau gwaith ymddiswyddodd Mrs Jenkins o'i swydd gyda'r cyngor yn Hydref 2010.

Fe wnaeth hi baratoi i fynd 芒'r cyngor i dribiwnlys diwydiannol ond fe gytunodd hi ar setliad ariannol gyda'i chyn-gyflogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.

Er hynny, mae hi'n dal i deimlo ei bod hi wedi cael ei thrin yn annheg iawn gan y cyngor, gan honni ei bod hi wedi ei hynysu gan rai o fewn yr awdurdod wedi iddi wneud ei chwynion.

Mae'n teimlo'n flin ei bod hi wedi gadael swydd yr oedd hi wedi bod ynddi ers 15 mlynedd tra bod swyddogion oedd yn delio gyda'r gwyn yn parhau i weithio i'r cyngor, a rhai, yn 么l Mrs Jenkins, wedi eu dyrchafu.

"Rwy'n poeni na fydd pethau wir yn newid yn y cyngor tra bod y swyddogion fethodd 芒 delio gyda fy nghwyn i yn dal yn eu swyddi, " meddai.

"Rwy'n teimlo y dylai pobl golli eu swyddi oherwydd y ffordd y delion nhw 芒'r mater, a hynny o'r top lawr."

'Siomi'

Gwrthododd y cyngor wneud unrhyw gyfweliadau ar gyfer y rhaglen ond dywedon nhw mewn datganiad: "Mae'r awdurdod wedi'i siomi gan yr ymdrechion i ddal ati i ddod 芒'r mater hwn i sylw'r cyhoedd ryw bump neu chwe blynedd ar 么l y digwyddiadau, gan awgrymu, fel petai, nad yw'r sefyllfa wedi newid.

"Bryd hynny, roedd y feirniadaeth - y gellid ei chyfiawnhau - o fethiant prosesau diogelu wedi cael ei hystyried yn ddifrifol iawn gan yr awdurdod ac mae wedi cymryd yr holl gamau priodol i sicrhau na fydd methiant o'r fath yn digwydd eto.

"Mae'r awdurdod yn dal i weithio gyda'r holl randdalwyr, gan gynnwys rhieni, gofalwyr, grwpiau eiriol, cyrff sy'n bartneriaid a rheoleiddwyr, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth i gleientiaid yn cael ei ddatblygu'n barhaus."

Gofynnodd 麻豆官网首页入口 Cymru i'r cyngor a oedd y swyddogion a feirniadwyd yn adroddiad yr Ombwdsman yn dal i weithio i'r awdurdod.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor "nad oedd yr awdurdod yn fodlon trafod statws cyflogaeth unrhyw un o'r swyddogion oedd yn rhan o achos yr Ombwdsmon."

Mwy ar Taro Naw ar S4C am 9pm, nos Fawrth, 20 Mawrth.