麻豆官网首页入口

'App' iechyd yn hybu'r iaith

  • Cyhoeddwyd
App Iechyd DaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 'app' Iechyd Da ar gael yn rhad ac am ddim

Bydd 'app' newydd, sy'n cael ei lansio gan Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd, yn tanlinellu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg uwch yng Nghymru.

Mae'r 'app' (rhaglen feddalwedd ar gyfer ffonau a dyfeisiadau symudol), 'App Iechyd Da', yn cynnwys gwybodaeth am amryw o fentrau sy'n ymwneud yn benodol 芒'r Gymraeg megis tueddiadau demograffig, cyfarwyddebau gwleidyddol, dylanwadau economaidd, a chanllawiau cyfathrebu defnyddiol yn Gymraeg.

Mae ei restr termau'n amrywio o 'fodel therapi galwedigaethol Canada' i eirfa bob dydd megis 'bore da' (ynghyd 芒'r ynganiad ffonetig), ochr yn ochr 芒 chyfeiriadur eang o gysylltiadau o fewn y diwydiant.

'Arf gwerthfawr'

"Rydym yn gobeithio y bydd ein holl fyfyrwyr, ac yn wir ein cydweithwyr clinigol, yn gwneud defnydd llawn o'r app hwn sydd ar gael i'w lawrlwytho'n rhad ac am ddim," meddai Dr Gwilym Wyn Roberts, Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd Caerdydd.

"Bydd yn arf gwerthfawr ar gyfer astudiaethau academaidd a chlinigol ar bob lefel ac ar draws amryw o raglenni gwahanol."

"Mae angen sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr yn ymwybodol o gefndir diwylliannol ac ieithyddol unigryw'r cleifion," ychwanegodd Dr Roberts.

"Mae sgiliau dwyieithog yn cynyddu cyflogadwyedd graddedigion, a bydd yr 'app' yn annog myfyrwyr Di-Gymraeg i ddatblygu'u sgiliau ieithyddol drwy ymgymryd 芒 chyrsiau Cymraeg."

Bydd yr 'app' yn cael ei lansio yng Nghynhadledd Gynghorol Therap茂au Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau gan Alison Strode, Ymgynghorydd Therap茂au Llywodraeth Cymru.

'Gweledigaeth'

Dywedodd Ms Strode: "Rwy'n hynod falch o gael cefnogi'r 'app' hwn a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd.

"Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, a chynyddu ymwybyddiaeth pobl o werth y Gymraeg.

"Bydd yr 'app' hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ac eraill i ymgysylltu 芒'r iaith Gymraeg trwy dechnoleg fodern."

Mae'r 'app', a gr毛wyd gan stiwdio dylunio a datblygu 'fi a fo', ar gael ar gyfer teclynnau Apple i ddechrau, ond bwriedir ei ddatblygu ar gyfer teclynnau Android yn ogystal.

Mae ar gael i'w lawrlwytho gan fyfyrwyr, all ei ddefnyddio ar eu iPod touch neu iPhone os ydyn nhw mewn lleoliad sydd heb gysylltiad rhyngrwyd, ac mae hefyd ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl gyda chymorth grant o 拢2,500 oddi wrth yr Academi Addysg Uwch.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol