麻豆官网首页入口

S4C: Penodi Comisiynwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi penodi pedwar Comisiynydd Cynnwys newydd.

Fe fydd y pedwar yn gyfrifol am gomisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan ar gyfer y Sianel.

Mae Sioned Roberts, Llion Iwan, Gwawr Lloyd a Gaynor Davies wedi eu penodi ar gytundebau 3 blynedd.

Daw'r penodiadau fel rhan o'r newid yn strwythur comisiynu S4C a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Fe fydd S4C yn symud o drefn o wneud penderfyniadau comisiynu fel t卯m at drefn gomisiynu cynnwys gan gomisiynwyr unigol.

Amserlen

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:" Rwy'n credu bod gan y t卯m newydd y ddawn, y weledigaeth a'r profiad i greu amserlen amrywiol, uchelgeisiol a difyr a fydd yn apelio at y gynulleidfa ehangaf posibl.

"Mae'n gyfnod heriol a chyffrous pan fydd yn rhaid i wasanaethau S4C gyrraedd defnyddwyr ar wahanol lwyfannau digidol.

"Rwy'n credu y gall y t卯m hwn, trwy gydweithio gyda'r sector greadigol yng Nghymru a thu hwnt, ateb yr her a chomisiynu cynnwys dychmygus a chreadigol o'r safon uchaf."