麻豆官网首页入口

S4C: Arbedion mewnol

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb

Mae S4C wedi cyhoeddi nifer o arbedion arianol mewnol. Dywedodd prif weithredwr y Sianel, Ian Jones, fod aelodau o'r t卯m rheoli wedi gwirfoddoli i roi'r gorau i ddau gynllun buddiannau.

O ganlyniad, bydd eu hawl i gael ceir cwmni'n dod i ben ym mis Medi eleni, a'u hawl i yswiriant iechyd preifat yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y sianel: "Bydd 9 car cwmni yn mynd gydag arbediad o dros 拢50,000 y flwyddyn i S4C."

Y llynedd cyhoeddodd y Sianel fod 29 o aelodau staff i adael eu swyddi o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y Sianel.

Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb o 24% dros bedair blynedd o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 werth tua 拢100 miliwn.

Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r 麻豆官网首页入口 yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar 么l 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol