麻豆官网首页入口

Oriau agor: 'Dim ond 31%' o feddygon teulu

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai mwy o feddygfeydd estyn eu horiau

Llai na 33% o feddygfeydd Cymru sy ar agor rhwng 8am a 6.30pm, yn 么l yr ystadegau diweddara.

Dim ond 31% sy ar agor yn ystod yr oriau craidd ac mae'r gweddill ar agor am lai na hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy wedi cyhoeddi'r ystadegau am y tro cynta, y dylai mwy o feddygfeydd estyn eu horiau a chynnig mwy o apwyntiadau gyda'r nos ac ar fore Sadwrn.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud meddygon yn gweithio'n galed ond "bod angen gwneud mwy".

Mae'r ystadegau yn dangos bod 26% arall o feddygon teulu o fewn awr i fod ar agor trwy gydol y dydd y llynedd.

43%

Ond mae 43% - neu 205 o feddygfeydd - ar agor am lai o oriau.

Yng Nghymru mae 92 o feddygfeydd (19%) ynghau am hanner diwrnod o leiaf unwaith yr wythnos, 6% yn llai na 2010.

Yn 2010 dim ond 19% o feddygfeydd oedd yn dilyn yr oriau craidd.

Bwrdd Iechyd Cwm Taf oedd y perfformiwr gwaethaf - dim ond 6% o'r meddygfeydd oedd yn ateb y gofynion.

Fe ofynnwyd am ymateb y bwrdd iechyd.

Mae'r oriau craidd mewn cytundeb cyffredinol ar draws y DU gyda gwasanaethau meddygol sy'n darparu meddygon teulu i'r Gwasanaeth Iechyd.

Ond does dim rhaid i feddygfeydd gynnig apwyntiadau ar gyfer yr holl gyfnod.

Ennill tir

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn ennill tir o ran cael gwared ar gau am hanner diwrnod.

Ym maniffesto Llafur Etholiad Cynulliad y llynedd roedd 'na addewid y byddai gwell mynediad i feddygon teulu gyda'r nos ac ar for Sadwrn.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud na fydd oriau agor mwy hyblyg yn costio mwy i'r llywodraeth.

Ym mis Hydref y llynedd dywedodd mai "ail-strwythuro" oriau meddygon oedd angen yn lle eu gorfodi i weithio mwy o oriau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd: "Mae angen i feddygon wneud mwy er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad, gwell mynediad i wasanaethau meddyg teulu."

Roedd angen i lai o feddygfeydd gau am hanner diwrnod erbyn Ebrill 2013, meddai.

Dim bwriad

Hefyd fe fyddai angen i feddygfeydd "gynnig mwy o apwyntiadau" yn gynnar yn y bore neu gyda'r hwyr.

Yn y cyfamser, dywedodd y Gymdeithas Feddygol yng Nghymru nad oedd bwriad i ail-drafod y cytundeb.

Ar 么l mis Ebrill 2013 bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ehangu mynediad i apwyntiadau ar 么l 6.30pm.

Mae adolygiad oherwydd cynnig i ddarpary mwy o apwyntiadau ar fore Sadwrn.

Ond dywedodd Dr David Bailey, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu'r Gymdeithas Feddygol yng Nghymru mai'r cynnig i agor rhwng 8am a 8pm ac ar ddydd Sadwrn oedd yn "achosi'r pryder mwya".