麻豆官网首页入口

Prifysgolion am ostwng ff茂oedd

  • Cyhoeddwyd
GraddedigionFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O Fedi 2012 ymlaen bydd gan brifysgolion hawl i godi ff茂oedd o hyd at 拢9,000

Mae pump o brifysgolion yn bwriadu gostwng eu ff茂oedd i 拢7,500 neu lai ar gyfer 2013-14.

Mae'n dilyn penderfyniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y modd y mae'n dosbarthu arian.

Y pump yw Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae'r Cyngor Cyllido wedi newid sut mae'n gwobrwyo sefydliadau sy'n gostwng ff茂oedd ar gyfer cyrsiau.

Eisoes mae Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam wedi penderfynu gosod ffi sy'n is na 拢7,500.

Mae'n bosib y bydd yna ostyngiad o fwy na 500 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth o'i gymharu 芒 2012.

Diogelu

Eisoes mae Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe a Bangor wedi penderfynu codi uchafswm o 拢9,000.

Ar y llaw arall, fe allai'r nifer ym Mhrifysgol Morgannwg godi o fwy na 800.

Y Cyngor Cyllido sy'n penderfynu faint o lefydd ar gyfer graddedigion sy'n cael eu neilltuo i brifysgolion unigol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013-14.

Mae llefydd cyrsiau sy'n cael blaenoriaeth, fel gwyddoniaeth a thechnoleg, wedi eu diogelu.

Ond mae llefydd cyrsiau'r dyniaethau a chelfyddyd yn cael eu hailddosbarthu i brifysgolion sy'n gostwng ff茂oedd neu sy'n cwrdd 芒 thargedau penodol Llywodraeth Cymru.

O fis Medi 2012 ymlaen bydd gan brifysgolion yr hawl i godi hyd at 拢9,000 mewn ffioedd.

Dywedodd y Cyngor Cyllido y byddai llai o arian yn cael ei wario ar grantiau i dalu ff茂oedd.

Maen nhw hefyd yn dadlau y bydd y drefn newydd yn diogelu arian ar gyfer gwaith ymchwil.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol