麻豆官网首页入口

Offer arbenigol wedi eu dwyn o swyddfa Cwmni Da

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar 么l i offer arbenigol gwerth degau o filoedd o bunnau gael ei ddwyn o swyddfa cwmni teledu o Wynedd.

Fe dorrodd y lladron i mewn i adeilad Cwmni Da yn Y Felinheli nos Sadwrn.

Yn 么l perchennog y cwmni dydyn nhw ddim wedi colli unrhyw waith creadigol gwreiddiol.

Fe fyddan nhw nawr yn gorfod llogi offer tebyg er mwyn parhau a'u gwaith.

Yn 么l Dylan Huws, dim ond i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant teledu y mae'r offer yn ddefnyddiol.

"Mae'r mater nawr yn nwylo'r heddlu," meddai.

"Roedd offer trydanol eraill, fel cluniadyron wedi eu gadael yn y swyddfa.

"Mae'r peiriannau o ansawdd uchel iawn ac yn werth swm sylweddol iawn."

Ychwanegodd na fydd 'na oedi gyda chyflawni unrhyw waith ar gyfer dyddiadau penodol o ganlyniad i'r lladrad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol