'Cynllwyn' yn erbyn prifysgol

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod yn credu bod cynllwyn yn erbyn ei brifysgol yn dilyn penderfyniad sy'n golygu y bydd 20% yn llai o fyfyrwyr yno'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Dr Peter Noyes ei fod yn teimlo nad yw trefniadau ariannu newydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn gyson gyda pholisi Llywodraeth Cymru, ac nad ydynt yn cael eu gweithredu'n gyson ar draws Cymru.

Mae HEFCW wedi dyrannu lleoedd i israddedigion yn seiliedig ar fformiwla newydd, ac mae hynny wedi gadael Casnewydd gyda 311 yn llai o fyfyrwyr y flwyddyn nesaf.

Gallai Prifysgol Aberystwyth golli mwy na 500 o leoedd, ond bydd yn creu incwm drwy godi'r uchafswm o 拢9,000 mewn ffioedd.

Torri egwyddor

Ychwanegodd Dr Noyes fod y penderfyniad yn ei gwneud yn anodd iawn creu "Uwch Brifysgol" yn yr ardal - rhywbeth y mae wedi cefnogi yn y gorffennol.

Ym mis Tachwedd y llynedd, mynegodd Llywodraeth Cymru ei dymuniad i greu "Uwch Brifysgol" newydd yn ne-ddwyrain Cymru gan gyfuno Prifysgol Cymru Casnewydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae bwrdd llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd eisoes wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r syniad, a'u bod yn barod i fynd drwy'r llysoedd er mwyn rhwystro'n peth.

Dywedodd Dr Noyes fod penderfyniad HEFCW yn mynd yn groes i'r egwyddor o gynnig mynediad ehangach i addysg uwch, a bod ei brifysgol yn cael ei "gorfodi" i uno gyda Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Dywed HEFCW y bydd pob prifysgol yn derbyn mwy o incwm ar gyfer myfyrwyr llawn amser erbyn 2014-15 nag y byddai wedi cael o dan yr hen drefn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i HEFCW oedd dyrannu niferoedd myfyrwyr, ond ei bod yn credu bod y cynlluniau yn synhwyrol a chymesur.