麻豆官网首页入口

Ail gam ymgyrch i ddenu meddygon i weithio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prinder meddygon mewn rhai meysydd a rhai ardaloedd yng Nghymru

Bydd cam nesaf ymgyrch i ddenu meddygon i weithio yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

I hybu'r ymgyrch fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, yn ymweld ag Ysbyty Treforys Abertawe.

Daw'r ail gam wedi cyhoeddi gwefan arbennig ym mis Ionawr oedd yn rhoi gwybodaeth i ddarpar feddygon ar fanteision gweithio yng Nghymru.

Mae pecyn 'Gweithio i Gymru' yn cynnwys:-

  • Mynd 芒'r ymgyrch i ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd ar draws y DU a thramor;

  • Rhaglen recriwtio ddyfeisgar sy'n cynnwys gwobrau ariannol i feddygon yng Nghymru i'w galluogi i ddatblygu dyfeisiau newydd;

  • Cynnig llety am ddim am y flwyddyn gyntaf i feddygon dan hyfforddiant - yr unig wlad yn y DU i gynnig hyn;

  • Creu rhwydwaith o lysgenhadon clinigol o bobl feddygol fydd yn hybu'r hyn sydd orau am Gymru.

'Unigryw'

"Bydd yr ymgyrch 'Gweithio i Gymru' yn hybu'r pethau unigryw mae Cymru'n gallu cynnig i feddygon ar bob lefel, o lety am ddim i'r rhai sy'n cychwyn eu gyrfa i'r cyfleoedd unigryw ar lefel ymgynghorydd yn nhermau dyfeisgarwch mewn gofal," meddai Mr Jones.

"Mae rhai meysydd arbenigol, a rhannau arbennig o Gymru, lle mae trafferthion wedi bod wrth geisio llenwi swyddi gwag.

"Nid problem i Gymru yn unig yw hon gan fod prinder drwy'r DU o feddygon mewn rhai meysydd megis gofal argyfwng, seiciatryddiaeth a gofal plant.

"Bydd yr ymgyrch yma yn hybu Cymru fel lle gwych i fyw a gweithio."

Bydd yr ymgyrch yn cael ei gynnal am y 12-18 mis nesaf.

Fe fydd hefyd yn cynnwys hysbysebion yn y wasg arbenigol i feddygon i gyd-fynd 芒'r broses recriwtio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol