Teulu o Wrecsam yn llwyddo mewn achos wedi esgeulustod

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae Kate angen gofal ddydd a nos an ei theulu a chynhalwyr

Mae teulu merch chwech oed o Wrecsam gafodd niwed parhaol i'w hymennydd oherwydd esgeulustod meddygol wedi ennill achos yn erbyn bwrdd iechyd lleol.

Yn Llys Sirol Yr Wyddgrug clywodd Mark a Diane Pierce farnwr yn derbyn cytundeb cyfaddawd rhwng y bwrdd iechyd heard a chyfreithiwr y rhieni.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn 75% o'r cyfrifoldeb ac mae cyfreithiwr y teulu wedi dweud y gallai'r iawndal fod yn "saith ffigwr".

Bydd rhieni Kate Pierce yn mynychu gwrandawiad arall fydd yn pennu maint yr iawndal.

Y gred yw bod y costau cyfreithiol tua 拢300,000.

Dywedodd y Barnwr Milwyn Jarman QC na fyddai unrhyw swm o arian yn "talu am y gofal y mae Kate bellach ei angen".

'Gwarchod'

Cytunodd fod y cyfaddawd yn "gwarchod buddiannau Kate heb os nac oni bai" gan y byddai wedi bod yn anodd profi esgeulustod llwyr ar ran Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dim ond naw mis oed oedd Kate Pierce pan gafodd hi farn feddygol anghywir ar 么l datblygu llid yr ymennydd yn 2006 yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn chwe blwydd oed erbyn hyn mae Kate angen gofal ddydd a nos.

Dydi hi ddim yn cyfathrebu, mae nam difrifol ar ei golwg a'i chlyw ac mae'n diodde' o epilepsi, problemau anadlu a phoenau corfforol.

Pan gafodd ei tharo'n wael fe ddywedodd meddyg ifanc wrth y teulu ei bod yn ddigon da i fynd adre'.

Pan ofynnodd ei rieni am farn arall honnodd y meddyg ifanc iddo gael cyngor meddyg mwy profiadol er nad oedd hyn wedi digwydd.

Aeth Kate adref ond gwaethygodd ei chyflwr a bu'n rhaid iddi ddychwelyd i'r ysbyty lle dywedodd meddygon ganfod ei bod yn dioddef o lid yr ymennydd.

Cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl, ond roedd hi wedi diodde' niwed difrifol i'w hymennydd.

'Cam ymlaen'

"Dwi'n gobeithio bod yr achos yma yn gam ymlaen ond fe fydd hi'n fisoedd eto cyn y byddwn yn gwybod y setliad terfynol," meddai Mr Pierce.

"Mae disgwyliad bywyd Kate yn llawer llai ac rydym wedi gorfod treulio chwe blynedd gwerthfawr gyda hi yn ymladd achos gyda'r bwrdd iechyd.

"Er hynny, mae'n rhaid bod yn bositif."

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd "nad oedd modd gwneud sylw manwl yngl欧n 芒'r achos oherwydd cyfrinachedd" ond eu bod yn "derbyn nad oedd rhai agweddau ar y gofal yn dderbyniol".

"Rydym wedi ymddiheuro ac wedi dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd."