Cyfoeth: Syr Terry Matthews yn 么l ar y brig

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r biliwnydd wedi gwario mwy na 拢150 miliwn ar ddatblygu cyrchfan Celtic Manor

Mae Syr Terry Matthews yn 么l ar y brig yn 么l rhestr o'r Cymry mwya' cyfoethog ym mhapur newydd The Sunday Times.

Mae cyfanswm ffortiwn y dyn busnes 68 oed, gafodd ei eni yng Nghasnewydd, wedi codi 拢47 miliwn o 拢1,0043 i 拢1,090 miliwn er 2011.

Hwn yw'r tro cyntaf i Syr Terry Matthews fod ar frig y rhestr er 2009.

Mae'r biliwnydd wedi gwario mwy na 拢150 miliwn ar ddatblygu cyrchfan Celtic Manor, safle'r ysbyty lle gafodd ei eni, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae'r 24 miliwnydd o Gymru sy'n rhan o restr 100 pobl fwyaf cyfoethog Prydain ac Iwerddon yn rhannu ffortiwn gwerth 拢7.055 biliwn.

Fe wnaeth y cyfalafwr o Gaerdydd, Michael Moritz, 58 wneud elw wedi i' safle rhwydweithio ar gyfer pobl fusnes, LinkedIn, gael ei roi ar y farchnad stoc yn 2011.

Mae Moritz yn bartner blaengar yng nghwmnmi Sequoia Capital, a fuddsoddodd $4.7m yng ngwmni LinkedIn yn 2003.

Roedd y buddsoddiad hwn yn werth $1.5 biliwn pan gafodd y cwmni ei roi ar farchnad Wall Street ym mis Mai y llynedd.

Ond gostyngodd elw cwmni Specsavers, i 拢21.2 miliwn yn 2011.

Doug Perkins, gafodd ei eni yn Llanelli, a'i wraig Mary, sy'n berchen y cwmni optegwyr.