Dathliadau i nodi agor llwybr arfordirol
- Cyhoeddwyd
Bydd llwybr arfordir Cymru yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i'r llwybr, sy'n 870 o filltiroedd o hyd (1400 km), ddenu 100,000 o ymwelwyr ychwanegol bob blwyddyn.
Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths wnaeth agor y llwybr yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ym Mae Caerdydd am 11am.
Cafodd dathliadau tebyg eu cynnal yng nghastell y Fflint yn y gogledd ac ar brom Aberystwyth yn y canolbarth.
"Ers i'r prosiect hwn ddechrau yn 2007 rydym wedi creu dros 130 o filltiroedd o lwybr newydd ac wedi gwella dros 330 o filltiroedd o lwybr presennol," meddai Mr Griffiths.
"Bydd y llwybr yn sicr yn hwb enfawr i econom茂au lleol o amgylch ein harfordir."
Buddsoddi
I nodi'r achlysur mae Ramblers Cymru yn trefnu Taith Gerdded Arfordirol Fawr Gymreig ac yn cynnal cant o wahanol deithiau cerdded er mwyn sicrhau y bydd pobl yn cerdded ar hyd pob rhan o'r llwybr yn ystod ei benwythnos cyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hyd at 拢2 filiwn y flwyddyn ers 2007.
Derbyniwyd 拢4 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dros bedair blynedd yn ogystal.
Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn mynd o'r ffin 芒 Lloegr yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.
Ar 么l ei agor, hwn fydd y llwybr arfordirol di-dor cyntaf yn y Byd o amgylch un wlad.
Ceir manylion am y teithiau cerdded sy'n cael eu trefnu ar wefan .
Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol.