麻豆官网首页入口

Picnic a chystadleuaethau i gyfoethogi'r diwylliant bwyd

  • Cyhoeddwyd
Pabell Gwir Flas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r trefnwyr yn galw am atgofion eisteddfodwyr o wahanol ddanteithion

Mae dau sefydliad wedi dod at ei gilydd i alw ar Eisteddfodwyr am eu hatgofion am fwyd.

Bwyd drwy'r oesoedd yw thema Casgliad y Werin ar faes yr Eisteddfod.

A dydd Gwener bydd nifer gystadlaethau yn ymwneud a bwyd ym Mhabell Gwir Flas Cymru.

Mae modd i eisteddfodwyr anfon rysetiau ac atgofion at y Casgliad yn ogystal 芒'u cynnyrch hefyd.

Fe fydd 'na bicnic mawreddog ar y Maes dydd Iau ac mae 'na alw am eitemau amrywiol fel y bydd pawb yn gallu rhannu'r bwyd a mwynhau trafod y cynnyrch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na arddangosfeydd bwyd ar gael yn ogystal

Bydd Casgliad y Werin Cymru yn rhannu hanes a phrofiad pobl ar y we.

"Mae 'na wahanol them芒u ar fwyd ganddo ni yn ystod yr wythnos, o ddathliadau, y cynhaeaf, dogni bwyd, picnic a chystadlu," meddai Rheinallt Williams o Gasgliad y Werin.

"Mae lluniau o fwyd yn cael ei baratoi neu ei fwyta ac arddangosfa aml gyfrwng ar y wefan a hynny ar draws y canrifoedd."

Ar gyfer y cystadlu ddydd Gwener mae'r trefnwyr yn gofyn i gogyddion amatur o bob cwr o Gymru i ddod 芒'u danteithion cartref, popeth o Fara Brith, Cacenni Cri, sbwng Fictoria a jam a gwin i selsig Morgannwg.

Yn ystod yr wythnos hefyd mae'r cogydd Nerys Howell yn coginio ryseitiau sydd wedi dod i lawr o gacenni tatws a gafodd eu hysbrydoli gan ddogni'r Ail Ryfel Byd.

"Y bwriad yw cyfoethogi ein diwylliant bwyd ac i greu bwrlwm yn y maes.

"Byddwn yn creu cacen finegr gan fod wyau yn brin roedden nhw'n defnyddio finegr.

"Fe fyddwn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth a'i cawl neu lobsg贸ws yw'r gorau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol