Safonau uchel i'r Mesur Iaith

Mae'r Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi dechrau ymgynghoriad ar sut y dylai sefydliadau drin a defnyddio'r Gymraeg.

Cyhoeddodd Meri Huws y bydd disgwyl i sefydliadau neu gwmn茂au sy'n dod o dan y Mesur Iaith eu cyrraedd.

Y nod, medd Ms Huws, yw ei gwneud yn fwy eglur pa wasanaethau y gall pobl eu disgwyl eu cael trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y gwasanaethau hynny yn gyson ar draws Cymru.

Mae'r Mesur Iaith yn gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Mesurau penodol

Bydd disgwyl i unrhyw sefydliad cyhoeddus, yn ogystal 芒 rhai cwmn茂au preifat a rhai sefydliadau trydydd sector ddarparu gwasanaethau yn hollol ddwyieithog.

Bydd hyn yn cynnwys unrhyw ohebiaeth, galwadau ff么n, cyfarfodydd personol, cyhoeddiadau neu ffurflenni a gwefannau. Bydd rhaid sicrhau hefyd bod popeth yn cael ei gyhoeddi yn y ddwy iaith ar yr un pryd.

Er mwyn cyrraedd y safonau yma bydd rhaid i sefydliadau weithredu mesurau penodol i gyflogi digon o siaradwyr Cymraeg.

Enghraifft o'r safonau yw person sy'n siarad Cymraeg yn byw mewn cartref gofal o eiddo'r awdurdod lleol - pe bai'r safonau'n cael eu cymeradwyo byddai gan y person hawl i fynnu cael gofalwyr Cymraeg eu hiaith.

Cofnod

Wrth siarad ar raglen CF99, dywedodd Meri Huws y byddai cyrff cyhoeddus sy'n gwrthod cydymffurfio, megis Byrddau Iechyd Lleol, gael dirwy o hyd at 拢5,000.

Ychwanegodd nad yw Cofnod y Cynulliad ar hyn o bryd yn cydymffurfio gyda'r safonau y mae'n eu cynnig.

Awgrymodd y byddai'r Cynulliad yn awyddus i gydymffurfio os fydd y safonau'n cael eu cymeradwyo, ond os na fydden nhw'n gwneud hynny, yna fe allen nhw wynebu dirwy yn ogystal.

Dywedodd bod ei hargymhellion yn gosod safon uchel, ac fe gyfaddefodd y gallai'r argymhellion gael eu hystyried yn "heriol".

Ond mynnodd y byddai'n ystyried gosod y safonau yn uwch os mai dyna fyddai canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Ond mynnodd y byddai'n ystyried gosod y safonau yn uwch os mai dyna fyddai canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Anhrefn

Dywedodd Eric Davies, cyfrifydd yn Abertawe, y byddai argymhellion y Comisiynydd yn codi nifer o gwestiynau i gwmniau oedd yn ystyried buddsoddi yng Nghymru.

Dywedodd bod defnyddio geiriau fel "deddfu" a "gorfodaeth" mewn perthynas 芒'r iaith Gymraeg yn codi ofn ar nifer o fusnesau.

Mynnodd Mr Davies nad oedd busnes yn wrth-Gymreig, ond yr hinsawdd economaidd sydd ohoni nad oedd yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth yn y tymor byr.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ganol mis Awst, a than hynny bydd y Comisiynydd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru.