麻豆官网首页入口

Etholaethau: Cheryl Gillan yn cyhoeddi papur gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Cheryl GillanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gillan: '... yn gobeithio cyhoeddi canlyniad yr ymgynghori yn ddiweddarach yn y flwyddyn'

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd am drefniadau etholiadol y Cynulliad.

Ar hyn o bryd mae ffiniau etholaethau'r Cynulliad yn union fel etholaethau etholiadau San Steffan.

Ond mae yna fesur ar droed i leihau nifer Aelodau Seneddol Cymru, mesur fydd yn torri'r cyswllt rhwng etholaethau'r Cynulliad a rhai San Steffan.

Nod y glymblaid yn San Steffan yw lleihau nifer Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 30 ond bydd nifer Aelodau Cynulliad yn parhau yn 60.

Effaith

Papur ymgynghorol yw'r Papur Gwyrdd sy'n ystyried effaith y newid ar y Cynulliad.

Un opsiwn fydd parhau gydag 40 etholaeth ar gyfer y Cynulliad ond sicrhau eu bod yn fwy tebyg o ran maint.

Mae'r papur hefyd yn ystyried creu 30 o etholaethau ar gyfer y Cynulliad.

O dan y drefn byddai nifer aelodau rhanbarthol yn cynyddu o 20 i 30.

Newidiadau

Dywedodd Ms Gillan: "Byddwn yn gobeithio cyhoeddi canlyniad yr ymgynghori yn ddiweddarach yn y flwyddyn a byddwn yn cydweithio yn agos gyda sefydliadau yng Nghymru."

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno mor fuan ag sy'n bosib.

Yn 么l Llafur Cymru, does gan y glymblaid yn San Steffan ddim mandad i wneud newidiadau.

Ond os ydi newidiadau yn cael eu gorfodi, mae Llafur Cymru yn dweud y bydd yn ymgyrchu o blaid creu 30 o etholaethau gyda dau aelod etholedig ym mhob un.

"Fe fyddai'n gwbl amhriodol i ni wneud sylw cyn i'r Papur Gwyrdd gael ei gyhoeddi," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Sicrwydd

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, fod David Cameron a Cheryl Gillan wedi rhoi sicrwydd iddo pan oedd yn Llywydd y Cynulliad y byddai unrhyw newidiadau posib i system etholiadol y Cynulliad yn cael eu hystyried ar wah芒n i newid nifer ASau San Steffan.

"Fe hoffwn i i'r Cynulliad fod yn gyfrifol am ei drefniadau etholiadol ac, yn wir, holl drefniadau etholiadau Cymru," ychwanegodd.

Presennol

Dywedodd AC Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsey, fod ei gr诺p o blaid y drefn bresennol, yn enwedig y gynrychiolaeth gyfrannol.

"Yr hyn na fyddwn ni eisiau yw'r hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei gynnig, cael gwared ar yr elfen cynrychiolaeth gyfrannol yn llwyr.

"Fyddai pleidiau fel fy un i ddim yn gallu cael rhan deg o'r bleidlais.

"Dwi'n credu y byddai hynny yn gynnig gwarthus os yw'n digwydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol