Cyfieithu: Erthygl olygyddol o dan y lach

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Western Mail y byddai'r gost gyfieithu yn 拢400,000.

Mae ffrae wedi codi oherwydd erthygl ym mhapur newydd y Western Mail fore Mawrth.

Wedi i'r papur gyhoeddi erthygl olygyddol sy'n beirniadu gwario "拢400,000 ar gyfieithu holl drafodaethau'r Cynulliad Cenedlaethol," mae nifer o wleidyddion wedi ymateb yn chwyrn.

Mae'r erthygl wedi enwi wyth Aelod Cynulliad sydd wedi argymell gwario ar gyfieithu'r Cofnod a thrafodaethau pob pwyllgor yn y Cynulliad.

Ond mae wedi dweud bod hyn yn "foethusrwydd na allwn ni ei fforddio mewn cyfnod lle mae cyllidebau'n cael eu gwasgu".

'Rhy bell'

Mewn datganiad mae'r papur wedi dweud bod "cyfieithu trafodaethau pob pwyllgor o fewn y sefydliad yn gam yn rhy bell".

Mae'r wyth sy'n cael eu henwi gan y papur yn aelodau Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad.

Cafodd yr erthygl olygyddol ei beirniadu ar wefan Twitter fore Mawrth.

Trafodaeth aeddfed

Disgrifiad o'r sainBethan Jenkins AC yn cael ei holi gan Garry Owen ar Y Post Cyntaf.

Dywedodd un o'r wyth aelod, AC Plaid Cymru Bethan Jenkins, ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mawrth y dylai'r Western Mail "gymryd cam yn 么l ac ail-asesu ei safbwynt am gyfieithu dogfennau a thrafodaethau i'r Gymraeg".

Dywedodd nad nawr oedd yr amser i drafod ariannu'r iaith Gymraeg gan fod y Mesur Iaith wedi ei greu.

Ychwanegodd nad oedd y ffigwr o 拢400,000 gafodd ei grybwyll yn yr erthygl wedi cael ei gyhoeddi ac nac oedd unrhyw s么n wedi bod amdano yn unman yn y Cynulliad.

Roedd angen trafodaeth aeddfed, meddai, am argymhellion y pwyllgor a honnodd fod y Western Mail wedi bod yn fyrbwyll.

Dywedodd Janet Finch Saunders AC, un arall o aelodau'r pwyllgor, fod y mesur yn ei ddyddiau cynnar.

&#虫27;拢95,000&#虫27;

Doedd y ffigwr o 拢400,000, meddai, "ddim yn adlewyrchu'r un o'r trafodaethau oedd wedi bod o fewn y pwyllgor".

"Y swm rydym ni yn ei ddisgwyl yw rhywbeth fel 拢95,000."

Ychwanegodd y byddai'r pwyllgor a'r Ceidwadwyr yn monitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau na fyddai'r swm yn codi i'r hyn gafodd ei ddyfynnu.

Yr wyth aelod gafodd eu henwi yw :-

  • Bethan Jenkins (Plaid Cymru - Gorllewin De Cymru);
  • Gwyn Price (Llafur - Islwyn);
  • Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr - Aberconwy);
  • Mike Hedges (Llafur - Dwyrain Abertawe);
  • Joyce Watson (Llafur - Gorllewin Canolbarth Cymru);
  • Mark Isherwood (Ceidwadwyr - Gogledd Cymru);
  • Ann Jones (Llafur - Dyffryn Clwyd);
  • Ken Skates (Llafur - De Clwyd).

Gofyn am ymddiheuriad

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd Iaith ei bod "yn amhriodol i'r Comisiynydd wneud sylw ar hyn o bryd".

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol.

Mae'r mudiad pwyso wedi sefydlu deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw ar bobl i gefnogi argymhellion pwyllgor y Cynulliad dros sicrhau bod dogfennau swyddogol ar gael yn ddwyieithog.

"Fe dorrodd Comisiwn y Cynulliad ei bolisi iaith am 17 mis ar 么l diddymu Cofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad a thros y tair blynedd ddiwethaf, mae buddsoddiad yng ngwasanaethau Cymraeg gan y Comisiwn wedi ei dorri mewn termau real o dros 14%," meddai.

Dywedodd eu llefarydd hawliau, Ceri Phillips, eu bod yn cefnogi hawl y papur i adrodd newyddion am y Bil Ieithoedd Swyddogol.

"Credwn yn gryf yn rhyddid y wasg.

"Fodd bynnag, mae'r lein olygyddol yn y papur heddiw wedi croesi llinell, llinell na fyddai neb yn ei derbyn mewn maes cydraddoldeb arall.

"Mae gan y papur ohebwyr o'r safon uchaf, ond mae'r Golygydd wedi gwneud camgymeriad golygyddol enfawr.

'Hygrededd'

"Rydym yn ffyddiog y bydd y papur yn gwneud ymddiheuriad i adfer ei hygrededd yng ngolwg pobl Cymru sydd, yn Gymry Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg, yn gefnogol iawn o'r buddsoddiad yn y Gymraeg."

Mewn datganiad dywedodd y Western Mail, "na allen nhw gefnogi cynnydd yng nghyllideb y Cynulliad pan mae gwasanaethau rheng flaen a budd-daliadau i'r bobl fwya' tlawd yn cael eu cwtogi.

"Dyna paham ein bod yn cefnogi Bil Draft Comisiwn y Cynulliad ac yn gwrthod y gwelliant a gynigwyd gan y pwyllgor."